Gerddi Linda Vista

parc yn Y Fenni

Parc bychan yn y Fenni, Sir Fynwy, yw Gerddi Linda Vista. Dechreuon nhw fel gardd i dŷ preifat, Linda Vista House (Linda Vista = "Golygfa Hardd" yn Sbaeneg), a adeiladwyd yn 1875 gan Henry Jenkins. Brodor o’r Fenni oedd Jenkins a wnaeth, ynghyd â’i frodyr William a John, ei ffortiwn yn y diwydiant adeiladu yn Tsile. Ar ôl iddo ddychwelyd i'w dref enedigol, adeiladodd fila a chreu y gerddi o'i chwmpas.

gerddi Linda Vista
Mathparc Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirY Fenni Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.821°N 3.0237°W Edit this on Wikidata
Map

Daeth y gerddi dan berchnogaeth gyhoeddus yn 1957. Wedi hynny, cawsant eu hymestyn, i gynnwys peth o'r tir yn Nolydd y Castell, a gwnaed gwaith ailblannu helaeth. Mae'r parc yn cynnwys nifer o goed sbesimen gwych. Mae Gerddi Linda Vista wedi’u cofrestru'n Radd II ar Gofrestr o Barciau a Gerddi yng Nghymru sydd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig Cadw.[1]

Rheolir y parc gan Gyngor Sir Fynwy.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu