Gerddi Sant Ioan

parc a chyn-fynwent yng Nghaerdydd

Parc bychan yng nghanol Caerdydd yw Gerddi Sant Ioan. Mae wedi ei leoli rhwng Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr a Hen Lyfrgell Caerdydd. Mae'r parc yn tua 1500 m² o ran maint ac wedi'i ffensio gyda ffens haearn. Mae'n agored i'r cyhoedd yn unig yn ystod y dydd ac mae'r mynediad yn cael ei chau am 17.00 awr. Ar y safle, nesaf i rai hen goed yw rhai gwelyau blodau a chofeb canolog ar ffurf cysegr.

Gerddi Sant Ioan
Mathparc, cyn-fynwent Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.48047°N 3.17777°W Edit this on Wikidata
Map
Cerrig beddi mynwent Sant Ioan (2018)

Cafodd yr ardal ei rhannu o'r gweddill y fynwent Sant Ioan yn ystod yr 1890au, pan adeiladwyd llwybr cyhoeddus gan Gorfforaeth Caerdydd rhwng Stryd Working a'r Farchnad Ganolog Caerdydd.[1]

Mae'r parc wedi'i gyfarparu gyda meinciau, ac felly yn arbennig o addas ar gyfer aros ac oedi. Oherwydd ei cylchedd hytrach hylaw, mae'n llai addas ar gyfer gweithgareddau chwaraeon, e.e. loncian. Mae'r llwybr croesi drwy'r parc yn byrfodd poblogaidd rhwng y ddwy ardal siopa a mannau eraill o ddiddordeb.

Lôn y Cyrff Meirw

golygu

Pan agorodd Marchnad Caerdydd yn 1891, cafodd llwybr ei greu drwy'r fynwent i ddarparu mynediad haws i'r farchnad. Mae'r llwybr sydd yn gwahanu dwy ran y fynwent yn cael ei 'nabod fel Dead Man's Alley.[2]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "The macabre reason for the numbers on these paving slabs in Cardiff city centre". WalesOnline. Media Wales. 6 Mawrth 2019. Cyrchwyd 12 Hydref 2020.
  2. "Marwolaeth, mynwentydd a galar: Lleoliadau morbid Cymru". BBC Cymru Fyw. 19 Tachwedd 2019.