Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Caerdydd

eglwys yng Nghaerdydd

Eglwys Anglicanaidd ac adeilad rhestredig Gradd I yng nghanol dinas Caerdydd yw Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr.

Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr
Matheglwys Brotestannaidd Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 15 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliadcanol dinas Caerdydd, Castell, Caerdydd Edit this on Wikidata
SirCaerdydd, Castell, Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr11.1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4807°N 3.1784°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iIoan Fedyddiwr Edit this on Wikidata
Manylion

Sefydlwyd Eglwys Sant Ioan yn wreiddiol fel capel anwes i Eglwys y Santes Fair, prif addoldy'r dref ganoloesol, ond dadfeiliodd yr eglwys fwy ar ôl llifogydd ym 1607 ac fe'i dymchwelwyd ym 1678.[1] Dinistriwyd eglwys wreiddiol Sant Ioan yng ngwrthryfel Owain Glyn Dŵr ym 1404, a dim ond dau fwa o'r 13g ar ochr ddeheuol y gangell sy'n goroesi o cyn y pryd hynny.[1] Ailadeiladwyd yr eglwys yn ail hanner y 15g yn yr arddull Gothig hwyr a elwir yn "Berpendiciwlar", ac y mae'r tŵr ac arcêd corff yr eglwys yn dyddio o'r cyrch yma. Mae sawl awdur wedi dwyn sylw at debygrwydd y tŵr i rai eglwysi yng Ngwlad yr Haf, yn enwedig Bryste, a daeth y garreg llwydfelyn a ddefnyddiwyd ar gyfer y manylion pensaernïol o Dundry yn yr un sir.[2]

Yn yr 17g gosodwyd beddrod yn arddull y Dadeni i ddau frawd o deulu'r Herbertiaid, Syr William (a fu farw ym 1609) a Syr John (a fu farw ym 1617), yng nghapel côr y teulu.[3] Gyda thwf Caerdydd yn y 19g hwyr ymhelaethwyd yr eglwys yn sylweddol o'i chraidd canoloesol, ac mae'r rhan fwyaf o'r muriau allanol presennol (ag eithrio'r tŵr) yn waith Fictoraidd. Yng ngwrthgefn (reredos) y brif allor y mae cerfluniau gan William Goscombe John, gweithiau cynnar pwysig gan y brodor hwn o Gaerdydd. Uwchben hynny, yn y ffenestr orllewinol, ceir gwydr lliw gan y dodrefnwr eglwysi blaenllaw Ninian Comper. Ceir hefyd ffenestri lliw gan yr arlunwyr Fictoraidd nodedig William Morris, Ford Madox Brown ac Edward Burne-Jones, i gyd yn dyddio o 1869.[2] Penodwyd yr eglwys yn adeilad rhestredig Gradd I ym 1952.[4]

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Hanes plwyf canol dinas Caerdydd ar ei wefan swyddogol. Adalwyd ar 20 Ionawr 2014.
  2. 2.0 2.1 Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. tt. 187–91
  3. (Saesneg) Matthews, John Hobson (gol.) (1901). Memorial inscriptions: St John's church. Cardiff Records: Volume 3. Institute of Historical Research. Adalwyd ar 20 Ionawr 2014.
  4. (Saesneg) Church of St John The Baptist, Castle. British Listed Buildings. Adalwyd ar 20 Ionawr 2014.