Gertrud Fussenegger
Awdures doreithiog o Awstria oedd Gertrud Fussenegger (8 Mai 1912 - 19 Mawrth 2009) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei nofelau hanesyddol.
Gertrud Fussenegger | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mai 1912 Plzeň |
Bu farw | 19 Mawrth 2009 Linz |
Man preswyl | Leonding |
Dinasyddiaeth | Awstria |
Galwedigaeth | llenor |
Plaid Wleidyddol | Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol |
Gwobr/au | Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Addurniad Aur Mawr Styria, Cadlywydd gyda Gorchymyn St Sylvester, Medal Diwylliant Awstria Uchaf, Gwobr Andreas Gryphius, Gwobr-Jean-Paul, Gwobr Llenyddol Weilheim, Gwobr Awstria am Gelf a Gwyddoniaeth, Gwobr Heinrich Gleißner, Gwobr Andreas Gryphius |
Gwefan | http://www.fussenegger.de/ |
Fe'i ganed yn Plzeň, Bohemia, Awstria-Hwngari ar 8 Mai 1912 a bu farw yn Linz, Awstria Uchaf. Ni allodd yn llwyr ddianc o gysgodion ei hieuenctid, pan oedd yn Sosialydd, ac yn aelod o Blaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol (Plaid Gomiwnyddol).[1][2][3][4][5][6][7][8]
Magwraeth
golyguRhan o dir Ymerodraeth Awstria oedd Pilsen, lle'i ganed, tref ddiwydiannol, lewyrchus. Daeth ei mam, Karoline Hässler, o Bohemia ac roedd ei thad, Emil Fussenegger, yn swyddog yn y fyddin ymerodrol, fel ei dad yntau, gyda'r teulu'n tarddu o Vorarlberg.[9][10]
Fe'i maged yn Neu Sandez, a oedd yr adeg honno yn Galicia, Dornbirn (Vorarlberg) a Telfs (Gogledd Tirol). Bu'n ddisgybl yn ysgol y menywod, Mädchen-Realgymnasium, yn Innsbruck yn 1923, ond bu farw ei mhamyn 1926 a symudodd y teulu'n ôl i Pilsen gan gwbwlhau ei chwrs uwchradd, a'i arholiad Matura yn llwyddiannus.[9] Fe'i maged gan ei thaid a'i nain, gan fod ei thad oddi cartref. Roedd yn difaru na ddysgodd y Tsieceg.[11] [12][13]
Prifysgol
golyguAstudiodd hanes, hanes celf ac athroniaeth yn Innsbruck (am 7 tymor) a Munich (am 1 tymor). O Brifysgol Innsbruck y derbyniodd ei doethuriaeth ym 1934. Roedd ei thraethawd hir yn ymwneud â Jean de Meun (teitl: "Gemeinschaft und Gemeinschaftsbildung im Rosenroman von Jean Clopinel von Meun").
Ymunodd Fussenegger â phlaid Sosialaidd Cenedlaethol Awstria - a oedd ar wahân i'w gymar o'r Almaen - ym mis Mai 1933. Roedd aelodaeth o'r blaid yn anghyfreithlon yn Awstria. Yn Mai 1934 cymerodd ran mewn gwrthdystiad yn Innsbruck lle adroddwyd ei bod wedi ymuno â chanu'r gân Horst-Wessel a rhoddodd saliwt Hitleraidd. Cafodd ei chyhuddo, ei dyfarnu'n euog a'i dirwyo am hyn.[8][14] Ysgrifennodd "emyn" yn dyrchafu Adolf Hitler.
Priodi a theulu
golyguYn 1935 priododd Fussenegger Elmar Dietz, cerflunydd o Bafaria. Cawsant bedwar o blant, ond daeth y briodas i ben chydig wedyn. Nid oedd y briodas yn un hapus. Ym 1943 gadawodd Munich a setlo yn Hall in Tirol lle bu'n byw gyda'i phedwar plentyn fel rhiant sengl.[15][16] Ailbriododd yn 1950 a hynny gyda cherflunydd arall, a chawsant fab.
Awdur
golyguCyhoeddodd Gertrud Fassenegger dros chwe-deg o lyfrau, ynghyd ag amryw ddarnau rhyddiaith a cherddi byr, a gyhoeddwyd gan 25 o gyhoeddwyr a'u cyfieithu i un-ar-ddeg o ieithoedd.[17]
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Academi y Gwyddorau a'r Celfyddydau Almaeneg.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (1984), Addurniad Aur Mawr Styria, Cadlywydd gyda Gorchymyn St Sylvester (2007), Medal Diwylliant Awstria Uchaf (1999), Gwobr Andreas Gryphius (1972), Gwobr-Jean-Paul (1993), Gwobr Llenyddol Weilheim (1993), Gwobr Awstria am Gelf a Gwyddoniaeth (1981), Gwobr Heinrich Gleißner (1987), Gwobr Andreas Gryphius (1961) .
Llyfryddiaeth
golygu- … wie gleichst du dem Wasser. Nofelig. Munich 1929
- Geschlecht im Advent. Roman aus deutscher Frühzeit. Potsdam 1936
- Mohrenlegende. Potsdam 1937
- Der Brautraub. Erzählungen. Potsdam 1939[18]
- Die Leute auf Falbeson. Jena 1940
- Eggebrecht. Erzählungen. Jena 1943
- Böhmische Verzauberungen. Jena 1944[19]
- Die Brüder von Lasawa. Nofel. Salzburg 1948
- Das Haus der dunklen Krüge. Nofel. Salzburg 1951
- In Deine Hand gegeben. Nofel. Düsseldorf/Köln 1954
- Das verschüttete Antlitz. Nofel. Stuttgart 1957
- Zeit des Raben, Zeit der Taube. Nofel. Stuttgart 1960
- Der Tabakgarten, 6 Geschichten und ein Motto. Stuttgart 1961
- Die Reise nach Amalfi. Drama radio. Stuttgart 1963
- Die Pulvermühle. Stuttgart 1968
- Bibelgeschichten. Vienna/Heidelberg 1972
- Widerstand gegen Wetterhähne. Lyrische Kürzel und andere Texte. Stuttgart 1974
- Eines langen Stromes Reise – Die Donau. Linie, Räume, Knotenpunkte. Stuttgart 1976
- Ein Spiegelbild mit Feuersäule. Ein Lebensbericht. Autobiographie. Stuttgart 1979
- Pilatus. Szenenfolge um den Prozess Jesu. Uraufgeführt 1979, verlegt Freiburg i. B./Heidelberg 1982
- Maria Theresia. Vienna/Munich/Zürich/Innsbruck 1980
- Kaiser, König, Kellerhals. Heitere Erzählungen. Vienna/Munich/Zürich/New York 1981
- Sie waren Zeitgenossen. Roman. Stuttgart 1983
- Uns hebt die Welle. Liebe, Sex und Literatur. Essay. Vienna/ Freiburg i. B./Basel 1984
- Gegenruf. Cerddi. Salzburg 1986
- Jona. Vienna/Munich 1987
- Herrscherinnen. Frauen, die Geschichte machten. Stuttgart 1991
- Jirschi oder die Flucht ins Pianino. Graz/ Vienna/ Cologne 1995
- Ein Spiel ums andere. Erzählungen. Stuttgart 1996
- Shakespeares Töchter. Three Nofelig. Munich 1999
- Bourdanins Kinder. Nofel. Munich 2001
- Gertrud Fussenegger. Ein Gespräch über ihr Leben und Werk mit Rainer Hackel. Vienna/ Cologne/ Weimar 2005
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: http://svazky.cz/test/svazkyMT.php?jmeno=Gertrud&prijm=Fussenegger&dnar=08.05.1912&hledej=Hledat. https://tritius.plzen.eu/authority/217049. dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2024. https://tritius.plzen.eu/authority/129866. dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2024.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 4 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Gertrud Fussenegger, eig. Dietz, verh. Dorn". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrud Fussenegger". Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 23 Tachwedd 2019. "Gertrud Fussenegger". "Gertrud Fussenegger". http://svazky.cz/test/svazkyMT.php?jmeno=Gertrud&prijm=Fussenegger&dnar=08.05.1912&hledej=Hledat. "Gertrud Fussenegger". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://tritius.plzen.eu/authority/129866. dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2024.
- ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Gertrud Fussenegger, eig. Dietz, verh. Dorn". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrud Fussenegger". Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 23 Tachwedd 2019. https://cs.isabart.org/person/151504. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 151504. "Gertrud Fussenegger". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://tritius.plzen.eu/authority/129866. dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2024.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014 Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 23 Tachwedd 2019. http://svazky.cz/test/svazkyMT.php?jmeno=Gertrud&prijm=Fussenegger&dnar=08.05.1912&hledej=Hledat. https://cs.isabart.org/person/151504. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 151504. https://tritius.plzen.eu/authority/129866. dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2024.
- ↑ Franz Fend (12 Mawrth 2008). "Pühringer zeigt Flagge". KPÖ Oberösterreich, Linz (Austrian Communist Party, Upper Austria branch). Cyrchwyd 6 Hydref 2018. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help)[dolen farw] - ↑ 8.0 8.1 Dieter Borchmeyer (1993). "Biographie .... Die blockierte Wahrnehmung. Vom fünfzigjährigen Versuch der Autorin, die Schwärmerei einer Zwanzigjährigen zu korrigieren". Rheinische Merkur. Cyrchwyd 6 Hydref 2018.[dolen farw]
- ↑ 9.0 9.1 Gertrud Anna Fussenegger (author); Harold Steinacker (supervisor) (1934). "Gemeinschaft und Gemeinschaftsbildung im Rosenroman von Jean Clopinel von Meun". Dissertation eingericht bei der Hohen Philosopischen Fakultät der Leopold-Franzens-Universität in Innsbruck. Universitäts- Landesbibliothek Tirol (Abteilung Digitale Services), Innsbruck. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-07. Cyrchwyd 6 Hydref 2018.
- ↑ Elisabeth Endres (8 Mai 1992). "Biographie .... Österreichische Reminiszenzen. Gertrud Fussenegger wird achtzig". Süddeutsche Zeitung. Cyrchwyd 6 Hydref 2018.[dolen farw]
- ↑ Rainer Hackel (19 Ionawr 2016). "Gertrud Fussenegger, Biografie". Adalbert-Stifter-Institut des Landes Oberösterreich, Linz. Cyrchwyd 6 Hydref 2018.
- ↑ Galwedigaeth: https://cs.isabart.org/person/151504. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 151504. https://tritius.plzen.eu/authority/129866. dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2024.
- ↑ Olga Hochweis; Adolf Stock (6 Chwefror 2015). "... Eine üppige Familiensaga, die an die 'Buddenbrooks' erinnert". Die Bierstadt [Pilsen] kann auch Kultur. Deutschlandfunk Kultur. Cyrchwyd 6 Hydref 2018.
- ↑ Ernst Klee: Das Kulturlexikon zum Dritten Reich. Wer war was vor und nach 1945. S. Fischer, Frankfurt am Main 2007, S. 172.
- ↑ "Gertrud Fussenegger". Nachrufe. Münchener Zeitungs-Verlag GmbH & Co.KG (Münchner Merkur). Cyrchwyd 7 Hydref 2018.
- ↑ "Gertrud Fussenegger vor 100 Jahren geboren". Katholische Presseagentur, Wien, Österreich. 2 Mai 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-07. Cyrchwyd 7 Hydref 2018.
- ↑ S. Stein (20 Mawrth 2009). "KIRCHE IN NOT trauert um die Schriftstellerin Dr. Gertrud Fussenegger". Österreichische Lyrikerin war dem Hilfswerk besonders verbunden. KIRCHE IN NOT, Königstein im Taunus. Cyrchwyd 7 Hydref 2018.
- ↑ Liste der auszusondernden Literatur. Zentralverlag, Berlin 1946 Fussenegger, Gertrud: Der Brautraub. Rütten & Loening, Potsdam 1939.
- ↑ Liste der auszusondernden Literatur. Zweiter Nachtrag. Deutscher Zentralverlag, Berlin 1948 Fusseziegger [sic!], Gertrud: Böhmische Verzauberungen. Diederichs, Jena 1944.