Gertrude Scharff Goldhaber

Ffisegydd niwclear Iddewig-Americanaidd a aned yn yr Almaen oedd Gertrude Scharff Goldhaber (Gorffennaf 14, 1911 - Chwefror 2, 1998). Enillodd ei doethuriaeth (PhD) o Brifysgol München, ac er i'w theulu ddioddef yn ystod yr Holocost, llwyddodd Gertrude i ddianc i Lundain ac yn ddiweddarach i'r Unol Daleithiau. Yr oedd ei hymchwil yn gyfrinachol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac ni chafodd ei chyhoeddi tan 1946. Treuliodd hi a’i gŵr, Maurice Goldhaber, y rhan fwyaf o’u gyrfaoedd wedi'r rhyfel yn Labordy Cenedlaethol Brookhaven.

Gertrude Scharff Goldhaber
Delwedd:Gertrude Scharff Goldhaber from Biographical Memoirs.png
Ganwyd(1911-07-14)Gorffennaf 14, 1911[1]
Mannheim, Yr Almaen[1]
Bu farw2 Chwefror 1998(1998-02-02) (86 oed)[1]
Patchogue, Efrog Newydd, UDA[2]
CenedligrwyddAmericanaidd
MeysyddFfiseg
SefydliadauPrifysgol Illinois 1939-1950[3][4]
Labordy Cenedlaethol Brookhaven 1950-1979[3][4]
Alma materPrifysgol München[5]
Ymgynghorydd DoethuriaethWalther Gerlach[5]
Llofnod

Bywyd cynnar golygu

Ganed Gertrude Scharff yn Mannheim, yr Almaen ar 14 Gorffennaf, 1911. Mynychodd ysgol gyhoeddus, ble y datblygodd ei diddordeb mewn gwyddoniaeth. Er yn anarferol ar y pryd, roedd ei rhieni’n cefnogi’r diddordeb hwn - o bosib oherwydd bod ei thad wedi dymuno bod yn gemegydd cyn cael ei orfodi i gynnal ei deulu yn dilyn marwolaeth ei dad. Roedd bywyd cynnar Gertrude yn llawn caledi. Yr oedd hi'n cofio gorfod bwyta bara wedi'i wneud yn rhannol â blawd llif adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, a dioddefodd ei theulu o effeithiau'r gorchwyddiant a ddilynodd y rhyfel, er ni rwystrodd hyn hi rhag mynychu Prifysgol München.

Addysg golygu

Ym Mhrifysgol München datblygodd Gertrude ddiddordeb mewn ffiseg. Er bod ei theulu wedi cefnogi ei diddordeb cynnar mewn gwyddoniaeth, fe'i hangwyd gan ei thad i astudio'r gyfraith. Amddiffynodd ei phenderfyniad i astudio ffiseg gan ddweud wrth ei thad, “Nid oes gennyf ddiddordeb yn y gyfraith. Rydw i eisiau deall o beth mae'r byd wedi'i wneud."

Fel oedd yn arferol i fyfyrwyr ar y pryd, treuliodd Gertrude tymor mewn amryw o brifysgolion eraill gan gynnwys Prifysgol Freiburg, Prifysgol Zurich, a Phrifysgol Berlin (ble'r cyfarfu ei darpar ŵr) cyn dychwelyd i Brifysgol München. Ar ôl dychwelyd i München, derbyniodd Gertrude swydd gyda Walter Gerlach i gynnal gwaith ymchwil ei thesis. Yn ei thesis astudiodd Gertrude effeithiau stres ar fagneteiddio. [6] Graddiodd yn 1935 a chyhoeddodd ei thesis yn 1936. [6]

Gyda dyfodiad y blaid Natsïaidd i rym yn 1933, wynebodd Gertrude anawsterau cynyddol yn yr Almaen oherwydd ei chefndir Iddewig. Yn ystod y cyfnod hwn cafodd ei thad ei arestio a’i garcharu, ac er iddo ef a’i wraig allu ffoi i’r Swistir ar ôl ei ryddhau, dychwelasant yn ddiweddarach i’r Almaen a chael eu llofruddio yn yr Holocost. Arhosodd Gertrude yn yr Almaen nes cwblhau ei Ph.D. yn 1935, a ffodd i Lundain. Er na wnaeth rhieni Gertrude ddianc rhag y Natsïaid, fe lwyddod ei chwaer Liselotte i wneud hynny.

Gyrfa golygu

Am chwe mis cyntaf ei harhosiad yn Llundain, bu Gertrude yn byw oddi ar yr arian a derbyniodd o werthu ei chamera Leica, yn ogystal ag arian a enillwyd o gyfieithu o'r Almaeneg i Saesneg. Canfu Gertrude fod cael Ph.D. yn anfantais gan fod mwy o leoedd i fyfyrwyr sy'n ffoaduriaid nag i wyddonwyr sy'n ffoaduriaid. Ysgrifennodd at 35 o wyddonwyr eraill sy'n ffoaduriaid a oedd yn chwilio am waith. Dywedwyd wrthi gan bawb ond un fod gormod o wyddonwyr sy'n ffoaduriaid yn gweithio eisoes.[6] [7] Dim ond Maurice Goldhaber a ysgrifennodd yn ôl gan gynnig unrhyw obaith, trwy nodi ei fod yn meddwl y gallai hi ddod o hyd i waith yng Nghaergrawnt.[7] Llwyddodd Gertrude i ganfod gwaith yn labordy George Paget Thomson yn gweithio ar ddifreithiant electronau.[7] Er bod ganddi swydd ôl-ddoethurol gyda Thomson, sylweddolodd nad oedd hi am gael cynnig swydd go iawn gydag ef ac felly edrychodd am waith arall.

Yn 1939 priododd Gertrude â Maurice Goldhaber. Symudodd wedyn i Urbana, Illinois i ymuno ag ef ym Mhrifysgol Illinois. Roedd gan dalaith Illinois gyfreithiau gwrth-nepotiaeth llym ar y pryd a oedd yn atal Gertrude rhag cael ei chyflogi gan y brifysgol oherwydd bod gan ei gŵr swydd yno eisoes. Ni roddwyd cyflog na lle labordy i Gertrude, a bu'n gweithio yn labordy Maurice fel cynorthwyydd di-dâl. Gan mai dim ond ar gyfer ymchwil ffiseg niwclear y sefydlwyd labordy Maurice, ymgymerodd Gertrude ag ymchwil yn y maes hwnnw hefyd. Yn ystod y cyfnod hwn roedd gan Gertrude a Maurice ddau fab: Alfred a Michael. Yn y pen draw, cafodd Gertrude gyllid gan yr adran i helpu cefnogi ei hymchwil.

Astudiodd Gertrude groestoriadau adwaith niwtron-proton a niwtron-niwclews ym 1941, ac allyriad ac amsugniad ymbelydredd gama gan niwclysau ym 1942.[7] Tua'r amser hwn sylwodd hefyd fod ymholltiad niwclear digymell yn cyd-fynd â rhyddhau niwtronau - canlyniad a ddamcaniaethwyd yn gynharach ond nad oedd wedi'i arsylwi.[7] Bu ei gwaith gydag ymholltiad niwclear digymell yn gyfrinachol, a dim ond wedi darfodiad y rhyfel y cafodd ei gyhoeddi yn 1946.[7]

Symudodd Gertrude a Maurice Goldhaber o Illinois i Long Island ble ymunodd y ddau â staff Labordy Cenedlaethol Brookhaven.[6] Yn y labordy, sefydlodd gyfres o ddarlithoedd misol o'r enw Cyfres Darlithoedd Brookhaven sy'n parhau tan o leiaf Mehefin 2009.[6] [8]

Anrhydeddau golygu

  • 1947 - ethol yn gymrawd o Gymdeithas Ffisegol America [6]
  • 1972 - ethol i Academi Genedlaethol y Gwyddorau (y trydydd ffisegydd benywaidd i gael ei hanrhydeddu) [6]
  • 1982 - Gwobr Cyflawnwr mewn Gwyddoniaeth Long Island [6]
  • 1984 - ysgolhaig gwadd Phi Beta Kappa [6]
  • 1990 - Gwobr Gwyddonydd Benywaidd Eithriadol gan Bennod Efrog Newydd y Gymdeithas Gwyddonwyr Benywaidd [6]

Etifeddiaeth golygu

Yn 2001, creodd Labordy Cenedlaethol Brookhaven Gymrodoriaethau Nodedig Gertrude a Maurice Goldhaber er anrhydedd iddi. Dyfernir y Cymrodoriaethau mawreddog hyn i wyddonwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd â dawn a chymwysterau eithriadol sydd ag awydd cryf am ymchwil annibynnol ar ffiniau eu meysydd. [9]

Cyfeiriadau golygu

Cysylltiadau Allanol golygu