Mae Ghardimaou neu Ghardimao (Arabeg: غار الدماء) yn ddinas yng ngogledd-orllewin Tiwnisia sy'n gorwedd 192 km i'r dwyrain o'r brifddinas Tiwnis.

Ghardimaou
Mathmunicipality of Tunisia, Imada Edit this on Wikidata
Poblogaeth64,170 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirJendouba, delegation of Ghardimaou Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Yn ffinio gydaOuled Moumen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.4503°N 8.4397°E Edit this on Wikidata
Cod post8160 Edit this on Wikidata
Map

Mae Ghardimaou yn rhan o dalaith Jendouba, a chanolfan yr ardal leol (délégation) sydd gyda phoblogaeth o 67,955. Mae tua 19,688 o bobl yn byw yn Ghardimaou ei hun.

Ghardimaou yw'r arosfa olaf ar y rheilffordd o Diwnis a adeiladwyd gan Ffrainc yn 1878; mae gwasanaeth traws-Maghreb yr Al-Maghreb al-Arabi yn pasio trwy'r ddinas unwaith eto erbyn heddiw, ar ôl cyfnod hir heb redeg oherwydd y rhyfel cartref yn Algeria. Y ddinas yw'r lle mawr olaf yn nyffryn Medjerda cyn cyrraedd y ffin ag Algeria (16 km i'r gorllewin).

Yng nghyffiniau Ghardimaou ceir dau safle archaeolegol Rhufeinig diddorol, sef tref a chwarel Chemtou a dinas fechan Thubernica. Mae bryniau'r Kroumirie yn codi o gwmpas y ddinas.