Giada De Laurentiis
Awdures Americanaidd yw Giada De Laurentiis ([ˈdʒaːda paˈmɛːla de lauˈrɛnti.is]; ganwyd 22 Awst 1970) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cogydd, newyddiadurwr ac actor.[1] Hi yw cyflwynydd cyfres Food Network 'Giada at Home'.
Giada De Laurentiis | |
---|---|
Ganwyd | Giada Pamela De Laurentiis 22 Awst 1970 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cogydd, llenor, newyddiadurwr, actor |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Everyday Italian |
Mam | Veronica De Laurentiis |
Gwobr/au | Gwobr Emmy 'Daytime', Gracie Awards |
Gwefan | http://www.giadadelaurentiis.com/ |
Fe'i ganed yn Rhufain ar 22 Awst 1970. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Califfornia, Los Angeles a Le Cordon Bleu.[2]
Mae hi hefyd yn ymddangos yn rheolaidd fel cyfrannwr a chyd-westai ar raglen 'Today' (NBC) . De Laurentiis yw sylfaenydd y busnes arlwyo GDL Foods. Mae'n enillydd Gwobr Daytime Emmy Award for Outstanding Lifestyle Host, Gwobr Gracie am y Cyflwynydd Teledu Gorau, ac yn 2012, cafodd ei derbyn i 'Oriel Enwogion Coginio' y Culinary Hall of Fame.[3][4]
Magwraeth
golyguGanwyd Giada Pamela De Benedetti ar 22 Awst 1970, yn Rhufain, yr Eidal, y plentyn hynaf i'r actores Veronica De Laurentiis a'i gŵr cyntaf, yr actor-gynhyrchydd Alex De Benedetti.[5] Roedd De Benedetti yn gydymaith agos i daid mamol Giada, y cynhyrchydd ffilm Dino De Laurentiis. Fel plentyn, roedd Giada yn aml yn dod i gegin y teulu ac yn treulio llawer o amser ym mwyty ei thad, "DDL Foodshow". Priododd ei rhieni yn Chwefror 1970 ond yn ddiweddarach ysgarodd y ddau a symudodd Giada a'i brodyr a chwiorydd i Dde California, UDA gan gymryd cyfenw eu mam.[6] [7]
Ar ôl graddio o Ysgol Uwchradd Marymount yn Los Angeles, aeth De Laurentiis i Brifysgol California, Los Angeles, gan ennill gradd mewn anthropoleg gymdeithasol ym 1996.[3][5]
Cyhoeddiadau
golygu- Everyday Italian: 125 Simple and Delicious Recipes. New York: Clarkson Potter. 2005. ISBN 978-1-4000-5258-5.
- Giada's Family Dinners. New York: Clarkson Potter. 2006. ISBN 978-0-307-23827-6.
- Everyday Pasta. New York: Clarkson Potter. 2007. ISBN 978-0-307-34658-2.
- Giada's Kitchen: New Italian Favorites. New York: Clarkson Potter. 2008. ISBN 978-0-307-34659-9.
- Giada at Home: Family Recipes from Italy and California. New York: Clarkson Potter. 2010. ISBN 978-0-307-45101-9.
- Weeknights with Giada: Quick and Simple Recipes to Revamp Dinner. New York: Clarkson Potter. 2012. ISBN 978-0-307-45102-6.
- Giada's Feel Good Food. New York: Clarkson Potter. 2013. ISBN 978-0-307-98720-4.
- Happy Cooking. New York: Pam Krauss Books. 2015. ISBN 978-0-8041-8792-3.
- Giada’s Italy. New York: Clarkson Potter. 2018. ISBN 978-0-307-98722-8.
Cyrhaeddodd Giada at Home a Weeknights with Giada "Gwerthwyr Gorau" The New York Times.[8][9]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Emmy 'Daytime' (2008), Gracie Awards (2012) .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Dizionario d'ortografia e di pronunzia". Archifwyd o'r gwreiddiol ar Mawrth 4, 2016. Cyrchwyd Hydref 8, 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Dyddiad geni: "Giada De Laurentiis". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Giada De Laurentiis".
- ↑ 3.0 3.1 "Giada De Laurentiis". Food Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ionawr 1, 2013. Cyrchwyd Rhagfyr 28, 2012. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Giada De Laurentiis Inducted". Culinary Hall of Fame. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2012.[dolen farw]
- ↑ 5.0 5.1 "Giada De Laurentiis". Biography. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ionawr 2013. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2012. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ De Laurentiis, Dino (2004). Dino: The Life and Films of Dino De Laurentiis. Miramax, ISBN 978-0-7868-6902-2.
- ↑ Galwedigaeth: Muck Rack. dyddiad cyrchiad: 3 Ebrill 2022.
- ↑ "Best Sellers". The New York Times. Ebrill 18, 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Hydref 16, 2013. Cyrchwyd Rhagfyr 28, 2012. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Best Sellers". The New York Times. Ebrill 22, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Mai 12, 2012. Cyrchwyd Rhagfyr 28, 2012. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)