Giovanni Boccaccio
llenor Eidalaidd
(Ailgyfeiriad o Giovanni Boccacio)
Bardd ac awdur o'r Eidal oedd Giovanni Boccaccio (Mehefin neu Gorffennaf 1313 – 21 Rhagfyr 1375). Daeth yn un o ffigyrau amlwg y Dadeni Dysg yn yr Eidal. Mae'n fwyaf enwog fel awdur y Decamerone. Ganed Boccaccio yn fab llwyn a pherth i'r marsiandïwr Boccaccio di Chellino, yn Certaldo neu Fflorens. Aeth i Napoli yn 1327 i weithio fel marsiandïwr. Tua 1340 roedd yn Fflorens, lle daeth yn gyfeillgar â Francesco Petrarca, a'i rhoes mewn cysylltiad a byd y dyneiddwyr. Ysgrifennodd fywgraffiad Dante, (Trattatello in laude di Dante, neu Vita di Dante) tua 1360.
Giovanni Boccaccio | |
---|---|
Ffresgo o Giovanni Boccaccio gan Andrea del Castagno, tua 1450 | |
Ganwyd | 1313 Certaldo, Fflorens |
Bu farw | 21 Rhagfyr 1375 o edema Certaldo |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fflorens |
Galwedigaeth | awdur storiau byrion, bardd, diplomydd, cyfieithydd, cofiannydd, mythograffydd, llenor |
Adnabyddus am | Decamerone, Elegia di Madonna Fiammetta, Buccolicum carmen, De casibus virorum illustrium, De mulieribus claris, De montibus, Genealogia deorum gentilium, Corbaccio, Il Filostrato, La caccia di Diana, Teseida, Amorosa visione, Trattatello in laude di Dante |
Gweithiau
golyguBarddoniaeth
golyguEidaleg
golygu- Filocolo, addasiad o Floris ende Blancefloer
- Elegia di Madonna Fiammetta
- Filostrato
- Teseida
- Commedia delle Ninfe fiorentine (Ninfale d'Ameto)
- Ninfale fiesolano
Rhyddiaith
golyguEidaleg
golygu- Decamerone
- Trattatello in laude di Dante (Vita di Dante)
- Della geneologia de gli Dei (Gwyddoniadur o Fytholeg Groeg)
Lladin
golygu- De casibus virorum illustrium (Dynion enwog)
- De claris mulieribus (Merched enwog)
- De genealogiis deorum gentilium (Gwyddoniadur o Fytholeg Groeg)