Gwleidydd a diplomydd Eidalaidd a llenor o ddyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni oedd Giovanni Pontano (Lladin: Jovianus Pontanus; 7 Mai 1429Medi 1503) a threuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Nheyrnas Napoli.[1]

Giovanni Pontano
Ganwyd7 Mai 1426, 7 Mai 1429 Edit this on Wikidata
Cerreto di Spoleto Edit this on Wikidata
Bu farw17 Medi 1503 Edit this on Wikidata
Napoli Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, bardd Edit this on Wikidata

Ganed yn Cerreto di Spoleto, ger Perugia (heddiw yn rhanbarth Umbria), yn Nhaleithiau'r Babaeth.[2] Astudiodd iaith a llenyddiaeth ym Mhrifysgol Perugia. Ym 1447 fe'i penodwyd yn llyswr i Alfonso I, brenin Napoli. Bu yng ngwasanaeth brenhinoedd Napoli hyd at 1495, yn gyntaf yn diwtor ac yn ddiweddarach yn gynghorwr, yn ysgrifennydd milwrol, ac yn llysgennad.

Fe'i penodwyd yn bennaeth ar academi ddyneiddiol Napoli ym 1471, a enwyd Accademia Pontaniana ar ei ôl. Er gwaethaf ei ddyletswyddau llywodraethol, bu Pontano yn llenor toreithiog, ac ymhlith ei weithiau, i gyd yn yr iaith Ladin, mae hanes o Napoli (De bello neapolitano), traethodau athronyddol (De prudentia, De fortuna), y gerdd astrolegol Urania, ymgomion ar bynciau moesoldeb, crefydd, ieitheg a llên, a thelynegion megis Lepidina a'r casgliad De amore coniugali.

Ym 1486 fe'i penodwyd yn Ganghellor Napoli gan y Brenin Ferdinand I. Ym 1494 goresgynnwyd yr Eidal gan luoedd Siarl VIII, brenin Ffrainc, gan nodi cychwyn Rhyfeloedd yr Eidal (1494–1559) rhwng Tŷ Valois a'r Hapsbwrgiaid â'u cynghreiriaid. Yn Chwefror 1495 cyrhaeddodd y Ffrancod ddinas Napoli, a phenderfynodd Pontano ildio heb frwydr na gwarchae. Yn sgil ffurfio Cynghrair Fenis i fwrw'r Ffrancod allan o'r Eidal, ffoes Siarl VIII ym Mai 1495, ac o fewn blwyddyn adferwyd brenhiniaeth Ferdinand II ar draws Teyrnas Napoli. Diswyddwyd Pontano am ildio'r brifddinas, ac er iddo dderbyn pardwn, ni chafodd ei groesawu yn ôl i'r llys na'r llywodraeth. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, bu farw Giovanni Pontano yn Napoli yn 77 oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gaetana Marrone; Paolo Puppa (26 December 2006). Encyclopedia of Italian Literary Studies (yn Saesneg). Routledge. t. 1473. ISBN 978-1-135-45530-9.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Giovanni Pontano. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2020.