Roedd Gladys del Estal Ferreño (19563 Mehefin 1979) yn ymgyrchydd amgylcheddol o Donostia. Roedd yn wyddonydd cyfrifiadurol o ran galwedigaeth. Cafodd ei saethu’n farw gan heddwas, fel rhan o ymosodiad ar brotest gwrth-niwclear yn Tutera. Mae'n symbol o'r mudiad gwrth-niwclear yng Ngwlad y Basg.[1][2][3]

Gladys del Estal
GanwydGladys del Estal Ferreño Edit this on Wikidata
1956 Edit this on Wikidata
Caracas Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mehefin 1979 Edit this on Wikidata
Tudela Edit this on Wikidata
Man preswylDonostia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gwlad y Basg Gwlad y Basg
Alma mater
Galwedigaethrhaglennwr, gwyddonydd cyfrifiadurol, ymgyrchydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Cefndir

golygu

Basgiaid oedd rhieni Gladys, Enrike del Estal Añorga ac Eugeni Ferreño. Roedd ei thad, Enrike, yn un o filwyr Euzko Gudarostea yn Rhyfel Cartref Sbaen. Bu'n rhaid iddynt ffoi i Caracas, Feneswela, lle ganed Gladys ym 1956. Pan oedd Gladys yn 4 mlwydd oed, dychwelodd y teulu i Wlad y Basg. Astudiodd ym Mhrifysgol Gwlad y Basg, gan ennill gradd cyfrifiadureg ym 1978.

Ymgyrchu

golygu

Roedd Gladys yn weithgar fel ymgyrchydd cymdeithasol ac amgylcheddol, fel rhan o nifer o grwpiau yn Donostia, gan wrthwynebu ynni niwclear a hapfasnachwyr y farchnad dai. Roedd hi'n beicio'n gyson, a threfnodd taith feics i Lemoiz i wrthwynebu codi atomfa yno. Yn ffenestr ei fflat yn nhŵr Atotxa, yn ardal Egia yn Donostia, rhoddodd symbol anti-niwclear anferth. Gellid gweld yr haul hwn o ardal eang, gan gynnwys stadiwm pêl-droed gyfagos - roedd i'w gweld yn y cefndir ar gemau pêl-droed ar y teledu hyd at ddechrau'r 21ain ganrif.[1]

Marwolaeth

golygu

Ar 3 Mehefin 1979, y Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Ynni Niwclear, saethwyd Gladys gan José Martínez Salas, heddwas gyda'r Guardia Civil, yn ninas Tutera yn Nafarroa Garaia.[4] [5] Roedd Gladys yn cymryd rhan mewn protest yn erbyn maes hyfforddi'r fyddin yn Errega Bardea ac yn erbyn Atomfa Lemoiz ac ynni niwclear yn gyffredinol.

 
Datganiad a gymeradwywyd gan Gyngor Dinas Donostia ar Fehefin 8, 1979 ynghylch llofruddiaeth Gladys

Yn ôl tystion, dywedodd José Martínez Salas «tía buena» wrth Gladys, a atebodd gan ddweud «hijo de puta» ac yna tarodd Martinez Salas hi gyda gwaelod ei wn; syrthiodd Gladys i'r llawr ac, wrth iddi godi, saethodd Martínez Salas hi yn ei phen. Aeth yr ergyd i mewn i'w gwddf ac allan o'i thrwyn. Aethpwyd â Gladys i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol, a bu farw’n fuan wedyn.[5][6][7][8][9]

Cyfeiriadau

golygu