Mae Lemoiz yn dref ar arfordir Bizkaia, yn ardal Uribe Kosta. Yn 2016 roedd ganddi boblogaeth o 1,244. Mae bwrdeistref Lemoiz yn cynnwys tair cymdogaeth, gydag Urizar yn bencadlys. Yn ystod y 1970, bwriadwyd codi atomfa yno.

Lemoiz
Mathbwrdeistref Sbaen Edit this on Wikidata
PrifddinasLemoiz Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,318 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethUnai Andraka Casimiro Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Basgeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolQ107556240 Edit this on Wikidata
SirUribe-Kosta Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad y Basg Gwlad y Basg
Baner Sbaen Sbaen
Arwynebedd18.9 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr89 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Cantabria Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGorliz, Plentzia, Gatika, Maruri-Jatabe, Bakio Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.4114°N 2.9023°W Edit this on Wikidata
Cod post48620 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
mayor of Lemoiz Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethUnai Andraka Casimiro Edit this on Wikidata
Map

Daearyddiaeth golygu

Lleoliad golygu

Lleolir Lemoiz ar arfordir Bizkaia, yn ardal Uribe-Kosta. I'r gogledd, ceir Bae Bizkaia; i'r gorllewin, Gorliz a Plentzia; i'r de, Gatika; i'r de-ddwyrain, Jatabe; ac i'r gogledd-ddwyrain, Bakio. Cyfanswm arwynebedd y fwrdeistref yw 18.9 km² ers ychwanegu ardal Basorda (13.8 km² oedd yr arwynebedd cyn hynny).

Mae Lemoiz 26 km i'r gogledd o Bilbo. Yn agosach ceir trefi Mungia 9.5 km i'r de-ddwyrain, a Gorliz, y dref agosaf, 3.5 km i ffwrdd.

Nodweddir yr ardal gan ddyffryn nant Andraka, sy'n tarddu yn ne'r pentref ac yn rhedeg tua'r môr yn y gogledd. Ar bob ochr i'r dyffryn mae bryniau dros 200 metr. Mae gweddill y tir yn fryniog. Y copa uchaf yn y fwrdeistref yw bryn Urizar, 290 metr o uchder. Mae'r arfordir yn llawn clogwyni a thraethau. Copa nodedig arall yw Ermua (289 m), wedi'i leoli ar yr arfordir.

Cymdogaethau golygu

Mae'r tair ardal hanesyddol i'r fwrdeistref, sef pen, canol a gwaelod nant Andraka. Y mwyaf deheuol a'r uchaf yw cymdogaeth Andraka, wrth ymyl tarddle'r nant o'r un enw. Yn y canol, mae cymdogaeth Urizar, lle mae neuadd y dref. Yn olaf, mae Armintza wedi'i leoli ar yr arfordir, ger aber Andraka.

 
Eglwys Armintza

Hanes golygu

Gweler Atomfa Lemoiz

Diwylliant golygu

Yr Iaith Fasgeg golygu

Ana Mari Mendizabal ac Angel Barturen[1] [2], fel rhan o brosiect Ahotsak (lleisiau)[3]

Yn Lemoiz[4] siaredir Basgeg Uribe Kosta[5], sef amrywiad o'r dafodiaith orllewinol.

Gwyliau a dathliadau golygu

 
Porthladd Armintza
  • Ar Fai 15 mae dathliadau er anrhydedd i San Isidro yn Urizar.
  • Ar Orffennaf 16 mae dathliadau er anrhydedd i Fair y Brodyr Gwynion yn Armintza. Ynghyd â'r dathliadau, trefnir gŵyl Txapel Reggae.
  • Ar Hydref 10, dathlir gwledd y nawddsant Sant Thomas yn Armintza gydag ymryson coginio.

Cyfeiriadau golygu