Glasoed
(Ailgyfeiriad o Glaslanc)
Glasoed yw'r broses o newidiadau corfforol, seicolegol a chymdeithasol sy'n digwydd wrth i blentyn newid yn oedolyn, ac i'r cyfnod hwnnw o amser mewn bywyd unigolyn. Mae'r rhan fwyaf o ferched yn dechrau glasoed yn 10 neu 11 oed, a bechgyn yn 11 oed.
Newidiadau corfforol
golyguMae tyfiant yn cyflymu trwy hanner cyntaf glasoed, ac mae'r tyfiant wedi cwblhau erbyn y diwedd. Cyn y glasoed, yr organau cenhedlu yw'r unig wahaniaeth corfforol rhwng merched a bechgyn mwy neu lai. Yn ystod y glasoed, mae gwahaniaethau mewn maint, ffurf, a swyddogaeth yn datblygu yn systemau a strwythurau corfforol.
Newidiadau corfforol mewn merched
golygu- Datblygiad y bronnau
- Tyfiant y cedor a gwallt corfforol
- Newidiadau yn y wain, y groth, a'r wygelloedd
- Dechrau mislifiad, a ffrwythlondeb
- Tyfu'n dalach
- Newidiadau yn yr esgyrn, cyfansoddiad corfforol, a dosraniad brasder
- Newidiadau i'r croen; sawr corfforol a smotiau
Newidiadau corfforol mewn bechgyn
golyguNewidiadau seicolegol a chymdeithasol
golyguMae'r cyfnod o newidiad seicolegol a chymdeithasol yn gorgyffwrdd â'r cyfnod o newid corfforol, ond mae'r ffiniau'r cyfnod yn llawer mwy amwys.
Oriel
golygu-
Bechgyn ifanc yn y pwll glo, tua 1885
-
Psyche et L'Amour 1889 gan Bouguereau