Cyfeiria'r gair bron at ran uchaf blaen corff anifail, pobl yn enwedig. Mae bronnau mamaliaid benywaidd yn cynnwys chwarennau llaeth, sy'n cynhyrchu lefrith a ddefnyddir i fwydo babanod. Yr enw ar y rhan blaen, yw teth, y rhan y mae baban yn ei sugno. Canolbwyntia'r erthygl hon ar fronnau benywod dynol yn bennaf.

Bron
Enghraifft o'r canlynolmath o organ, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathchwarren laeth, region of pectoral part of chest, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan oThoracs, corff, corff dynol, sex of humans Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bronnau merch.

Anatomeg

golygu
 
1:Mur y frest 2:Cyhyrau pectoralis 3:Llabedynnau 4:Teth 5:Areola 6:Dwythell 7:Meinwe floneg 8:Croen

Dwy fron sydd gan ddynes. Gorchuddir y bronnau gan groen. Mae teth ar bob un, a amgylchynir gan areola. Amrywia lliw yr areola o binc i frown tywyll, a lleolir sawl cwarren sebwm ynddi. Y chwarrenau llaeth mwyaf sy'n cynhyrchu llefrith. Fe'u dosbarthir trwy'r fron, gyda dau draean o'u meinwëoedd o fewn 30 mm o waelod y diden.[1] Maent yn diferu i'r diden trwy nifer (rhwng 4 a 18) o ddwythellau llaeth, ac mae agoriad unigol gan bob un. Ffurfia'r dwythellau rhwydwaith dyrys.

Meinwe cyswllt, meinwe floneg, a gewynnau Cooper sy'n ffurfio gweddill y fron. Mae'r gymhareb o chwarrennau i feinwëoedd bloneg yn newid o 1:1 mewn benywod nad ydynt yn llaetha, i 2:1 mewn benywod sydd yn llaetha.[1]

Eistedda'r bronnau dros y cyhyr pectoralis major, ac estynant o lefel yr ail i'r chweched asen fel arfer.

Mewn benywod a dynion, mae yna grynodiad uchel o rydweli a nerfau yn y didenau, ac fe all y didennau cael codiad oherwydd symbyliad rhywiol.[2]

Tybir y daw gynhaliaeth anatomegol o ewynnau Cooper yn bennaf, gyda chynhaliaeth ychwanegol o'r croen sy'n gorchuddio'r bronnau. Y gynhaliaeth hon sy'n penderfynu siâp y bronnau. Ni ellir olrhain anatomeg mewnol na gallu llaetha bron o'i siap neu'i maint allanol.

Swyddogaeth

golygu

Swyddogaeth chwarren laeth y bronnau yw cynhyrchu llefrith i feithrin babanod, sy'n mynd allan trwy'r didenau yn ystod llaetha. O ran siap y fron dynol, mae'n bosib iddynt esblygu felly er mwyn atal i fabanod fygu wrth fwydo: gan nad yw ên babanod dynol yn ymwthio allan fel y mae mewn primasiaid eraill, gallasai faban fygu tra'n bwydo o fynwes wastad. Yn ôl y ddamcaniaeth hon, wrth i'r ên esblygu'n llai, fe esblygodd y bronnau'n fwy.[3]

 
Merch llwyth yr Himba (yn Namibia) yn ei gwisg naturiol, dyddiol heb erioed weld dim o'i le mewn dangos ei bronnau i'r byd a'r betws.

Mae iddynt swyddogaeth arall, sef ennyn cynnwrf rhywiol mewn person; maent hefyd yn sensitif i gyffyrddiad gan berson arall, ac yn rhan bwysig o'r arweiniad i gyfathrach rhywiol.

Yn y diwylliannau hynny sy'n eu gweld fel organau rhywiol, mae eu dangos yn gyhoeddus yn dabŵ, eithr mewn rhai gwledydd ni fu erioed unrhyw beth o'i le yn eu dangos yn gyhoeddus.

Mae brwydr ar droed led-led y byd dros hawliau merched, ac fel rhan o'r frwydr honno, mae rhai (e.e. y 'topfree equality movement' yn yr Unol Daleithiau a Chanada) yn dadlau y dylai merched allu dangos eu bronau'n gyhoeddus. Drwy Ewrop, yn gyffredinol, a llawer o wledydd eraill, caniateir i ferch ddangos ei bronnau'n gyhoeddus ar draeth, ond nid yng nghanol tref.

Newid siap dros y blynyddoedd

golygu

Nid yw maint bronnau'n newid hyd nes bod merch yn ei harddegau, mewn cyfnod a elwir y glasoed, pan fo'r hormon estrogen yn dechrau llifo drwy'r corff. Ar adegau prin aiwn, gall lifo drwy fachgen hefyd gan greu bronnau, cyflwr (clwyf mewn gwirionedd) a elwir yn gynecomastia. Fel arfer, mae bron chwith y ferch ychydig yn fwy na'r un ar y dde. Yn y cyfnod cynnar hwn o lencyndod, mae'r dwythell yn troi ar i fyny.

Ar adegau prin, gall y bronnau mewn merched yn eu harddegau dyfu yn ormodol, cyflwr hypertrophy yw hwn; ar adegau eraill mae un fron yn tyfu a'r llall yn peidio a thyfu; dro arall nid oes yr un yn tyfu: (hypoplasia) yw'r clefyd hwn.

Mae bronnau merched yn newid eu siap drwy gydol eu hoes, nid yn unig yn ystod eu harddegau. Gall newid yn sylweddol pan fo merch yn feichiog ac yn ystod y misglwyf. A phan fo'r estrogen yn lleihau yn ystod y darfyddiad (menopause), mae'r bronnau'n lleihau cryn dipyn.

Nodweddion rhywiol

golygu

Mewn sawl diwylliant dros y byd, ystyrir y fron yn rhan o weithgaredd rhywiol pobl. Gan fod ynddynt cymaint o nerfau, maent yn sensitif i gyffyrddiad ac mae eu maldodi'n rhan o weithgareddau'r gyfathrach rywiol. Yn gyffredinol, fe'u hystyrir gan ddyn yn erotig.

 
Castell Degannwy. Ceir llawer o enwau bryniau a mynyddoedd ledled y byd wedi'u galw'n 'Fron' neu 'fronnau' e.e. 'Lochnagar': 'Mynydd y Bronnau' ac mae'n ddelwedd eitha cyffredin mewn barddoniaeth.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Anatomy of the lactating human breast redefined with ultrasound imaging, D.T. Ramsay et al., J. Anat. 206:525-534.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-15. Cyrchwyd 2007-03-16.
  3. Bentley, Gillian R. The Evolution of the Human Breast, American Journal of Physical Anthropology cyfrol=32 rhifyn=38, 2001
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Chwiliwch am bron
yn Wiciadur.