System atgenhedlu

(Ailgyfeiriad o Organau cenhedlu)

System atgenhedlu organeb, a elwir hefyd yn atgenhedliad, yw'r system fiolegol sy'n cynnwys yr holl organau anatomegol sy'n ymwneud ag atgenhedlu rhywiol. Mae llawer o sylweddau anfyw fel hylifau, hormonau, a fferomonau hefyd yn ategolion pwysig i'r system atgenhedlu. Mae gan y rhywiau o ahanol rywogaethau wahaniaethau sylweddol. Mae'r gwahaniaethau hyn yn caniatáu cyfuniad o ddeunydd genetig rhwng dau unigolyn, sy'n caniatáu ar gyfer y posibilrwydd o fwy o ennau iachach yn yr epil.[1] Mae'r system atgenhedlu'n cynnwys yr yr organau rhyw megis yr ofarïau, y tiwbiau Ffalopaidd, y groth, y wain, y chwarennau llaeth, y ceilliau, y fas defferens, y brostrad a'r pidyn.

System atgenhedlu
Broga (Llyffant cyffredin, gwrywaidd) mewn lliwiau paru yn aros am ragor o fenywod; mae'n sefyll mewn cawl o wyau llyffantod.]]
Enghraifft o'r canlynolmath o system anatomegol, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathsystem o organnau, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan osystem droethgenhedlol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysgamedlestr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Anifeiliaid

golygu

Mewn mamaliaid, mae prif organau'r system atgenhedlu'n cynnwys yr organau cenhedlu allanol (pidyn a fwlfa) yn ogystal â nifer o organau mewnol, gan gynnwys y gonadau sy'n cynhyrchu gametau (ceilliau ac ofarïau). Mae afiechydon y system atgenhedlu ddynol yn gyffredin iawn ac yn eang, yn enwedig heintiau trosglwyddadwy a drosglwyddir yn rhywiol.

Mae gan y rhan fwyaf o fertebratau eraill systemau atgenhedlu tebyg sy'n cynnwys gonadau, dwythellau ac agoriadau yn y corff (y wain). Fodd bynnag, ceir cryn amrywiaeth o addasiadau corfforol yn ogystal â strategaethau atgenhedlu ym mhob grŵp o fertebratau.

Fertebratau

golygu

Mae fertebratau'n rhannu elfennau allweddol o'u systemau atgenhedlu. Mae gan bob un ohonynt organau sy'n cynhyrchu gamet a elwir yn gonadau . Mewn merched, mae'r gonadau hyn wedyn yn cael eu cysylltu gan oviducts ag agoriad i'r tu allan i'r corff, fel arfer y cloaca, ond weithiau i mandwll unigryw fel y fagina neu organ ysbeidiol .

Bodau dynol

golygu
 
Organnau rhyw dynol; y prif rannau.

Mae'r system atgenhedlu ddynol fel arfer yn cynnwys ffrwythloni mewnol trwy gyfathrach rywiol. Ar wahan i drais, mae hyn yn digwydd gan oedolion neu lasoed sy'n hoffi neu'n caru ei gilydd. Yn ystod y broses hon o ddod at ei gilydd mae'r gwryw (bachgen neu ddyn) yn mewnosod ei bidyn yng ngwain (neu fagina) y fenyw (merch neu ddynes) ac yn alldaflu ychydig o semen sy'n cynnwys sberm i fewn i'w gwain. Yn ychwanegol at greu epil, mae rheswm arall dros y weithred o atgynhyrchu, sef er mwyn y pleser.

Wedi i'r gwryw osod ei sberm yn y wain (neu'r 'fagina' yn feddygol), mae'r sberm yn teithio drwy'r fagina a'r serfics ac i mewn i'r groth neu diwbiau ffalopaidd i ffrwythloni'r ofwm (yr wy). Ar ôl ffrwythloni llwyddiannus, mae beichiogrwydd y ffetws wedyn yn digwydd o fewn croth y fenyw am tua naw mis. Mae beichiogrwydd yn dod i ben gyda genedigaeth, pan fo'r babi yn cael ei esgor. Yn ystod y weithred o esgor mae cyhyrau'r groth yn cyfangu, ac mae ceg y groth yn ymledu, a'r baban yn pasio allan o'r fagina. Mae babanod a phlant dynol bron yn ddiymadferth ac angen lefelau uchel o ofal rhieni am flynyddoedd lawer. Un math pwysig o ofal rhieni yw'r defnydd o'r chwarennau llaeth ym mronnau'r fenyw i sy'n rhoi maetholion gwerthfawr i'r babi.

Felly, mae gan y system atgenhedlu benywaidd ddwy swyddogaeth: y cyntaf yw cynhyrchu celloedd wyau bob 28 diwrnod, a'r ail yw amddiffyn a maethu'r epil hyd at yr enedigaeth. Un swyddogaeth sydd i'r system atgenhedlu gwrywaidd, sef cynhyrchu ac alldaflu sberm. Mae gan fodau dynol lefel uchel o wahaniaethau rhyw. Yn ogystal â gwahaniaethau rhwng bron pob organ atgenhedlu, ceir llawer o wahaniaethau hefyd yn y nodweddion rhywiol eilaidd.

Organau cenhedlu gwrywaidd
  1. pledren
  2. pwbis
  3. pidyn, cala
  4. corpws cafernoswm
  5. glans
  6. blaengroen
  7. agoriad yr wrethra
  8. coluddyn mawr
  9. rectwm
  10. fesigl semenol
  11. dwythell alldafliadol
  12. chwarren brostad
  13. chwarren Cowper
  14. anws
  15. fas defferens
  16. epididymis
  17. caill
  18. sgrotwm
 

Mae'r system atgenhedlu gwrywaidd yn gyfres o organau sydd wedi'u lleoli y tu allan i brif gorff y bachgen neu ddyn: o amgylch y pelfis sy'n cyfrannu at y broses o atgenhedlu. Prif swyddogaeth uniongyrchol y system atgenhedlu gwrywaidd yw darparu'r sberm gwrywaidd ar gyfer ffrwythloni ofwm y fenyw.

Gellir grwpio prif organau atgenhedlu'r gwryw yn dri chategori. Y categori cyntaf yw cynhyrchu a storio sberm. Fe'u cynhyrchir yn y ceilliau, o fewn sach bychan y ceillgwd sy'n rheoli tymheredd; teithia'r sberm anaeddfed i'r argaill (yr epididymis) lle mae'nt yn datblygu ac yn cael eu storio. Yr ail gategori yw'r chwarennau alldaflu sy'n cynhyrchu hylif ac sy'n cynnwys y fesiglau semenol, y prostad, a'r vas deferens. Y categori olaf yw'r rhai a ddefnyddir ar gyfer cyfathrach rywiol, a gosod y sbermatosoa (y sberm): y pidyn, yr wrethra, vas deferens, a chwarren Cowper (bwlbwrethral).

Ymhlith y prif nodweddion rhyw eilaidd mae: datblygu corff o faint mwy, mwy cyhyrog, llais dyfnach, blew ar yr wyneb a chorff, ysgwyddau llydan, a datblygiad afal Adda. Yr hormon rhywiol pwysig i wrywod yw androgen a testosteron.

Mae'r ceilliau'n rhyddhau hormon sy'n rheoli datblygiad sberm, sy'n gyfrifol hefyd am ddatblygiad nodweddion corfforol dynion fel blew yr wyneb a llais dwfn.

Organau cenhedlu benywaidd
  1. tiwbiau ffalopaidd
  2. pledren
  3. pwbis
  4. man G
  5. clitoris
  6. wrethra
  7. gwain
  8. ofari, neu wygell
  9. coluddyn mawr
  10. croth
  11. ffornics
  12. ceg y groth
  13. rectwm
  14. anws
 

Mae'r system atgenhedlu fenywaidd, ddynol yn gyfres o organau sydd wedi'u lleoli'n bennaf y tu mewn i'r corff ac o amgylch rhanbarth pelfig y fenyw sy'n cyfrannu at y broses atgenhedlu. Mae'r rhain yn cynnwys tair prif ran: y fwlfa, sy'n arwain at y fagina, agoriad y fagina i'r groth; y groth, sy'n dal y ffetws sy'n datblygu; a'r ofarïau, sy'n cynhyrchu ofa'r fenyw. Mae'r bronnau'n cymryd rhan yn ystod cyfnod magu plant, yn dilyn yr enedigaeth, ac felly, fel arfer, nid ydynt yn cael eu hystyried yn rhan o'r system atgenhedlu fenywaidd.

Mae'r fagina yn cwrdd â'r tu allan yn y fwlfa, sydd hefyd yn cynnwys y labia, y clitoris a'r wrethra; yn ystod cyfathrach mae'r ardal hon yn cael ei iro gan miwcws wedi'i secretu gan chwarennau'r Bartholin ac yn medru rhoi teimlad pleserus i'r fenyw. Mae'r fagina ynghlwm wrth y groth drwy'r serfics (ceg y groth), tra bod y groth ei hun yn sownd wrth yr ofarïau drwy'r tiwbiau ffalopaidd. Mae pob ofari yn cynnwys cannoedd o ofa (unigol: ofwm).

Tua bob 28 diwrnod, mae'r chwarren bitwidol yn rhyddhau hormon sy'n ysgogi rhywfaint o'r ofa i ddatblygu a thyfu. Caiff un ofwm ei ryddhau ac mae'n mynd trwy'r tiwb ffalopaidd i'r groth. Mae hormonau a gynhyrchir gan yr ofarïau yn paratoi'r groth i dderbyn yr ofwm. Bydd yr ofwm yn symud trwy ei thiwbiau ffalopaidd ac yn aros am y sberm i'w ffrwythloni. Pan na fydd hyn yn digwydd hy pan na fydd sberm yna mae leinin y groth, a elwir yn endometrium, a'r ofa sydd heb ei ffrwythloni yn cael eu bwrw ymaith, bob cylch 28-diwrnod, trwy'r broses o fislif. Os caiff yr ofwm ei ffrwythloni gan sberm, bydd yn glynu wrth yr endometriwm a bydd datblygiad embryonig (beichiogrwydd) yn dechrau.

Mamaliaid eraill

golygu
 
Marswpial newydd-anedig yn sugno o deth arbennig a leolir yn llogell ei fam

Mae'r rhan fwyaf o systemau atgenhedlu mamaliaid yn debyg i'w gilydd, ond ceir rhai gwahaniaethau nodedig rhwng y mamaliaid nad ydynt yn ddynol a bodau dynol. Er enghraifft, mae gan y rhan fwyaf o famaliaid gwrywaidd bidyn sy'n cael ei gadw y tu fewn i'r corff nes ei fod yn cyffroi ac yn codi, ac mae gan y mwyafrif ohonynt asgwrn-y-pidyn neu bacwlwm.[2] Gwahaniaeth arall yw: nad yw gwrywod a benywod o'r rhan fwyaf o rywogaethau yn parhau i fod yn ffrwythlon fel bodau dynol ac nid yw benywod y rhan fwyaf o rywogaethau mamalaidd yn tyfu chwarenni llaeth parhaol fel y mae merched yn ei wneud ychwaith. Fel bodau dynol, mae gan y rhan fwyaf o grwpiau o famaliaid geilliau disgynnol a ddarganfuwyd o fewn sgrotwm, fodd bynnag, mae gan eraill geilliau disgynnol sy'n gorffwys ar wal y corff fentrol, ac mae gan rai grwpiau o famaliaid, fel yr eliffantod, geilliau heb ddisgyn a gedwir yn ddwfn o fewn ceudodau corff yr eliffant, ger ei arennau.[3]

Mae system atgenhedlu marswpials yn unigryw gan fod gan y fenyw ddwy fagina, y ddwy ohonynt yn agor yn allanol trwy un agoriad, ac yn arwain at wahanol adrannau o fewn y groth. Fel arfer mae gan wrywod marswpial bidyn deuholltog, sy'n cyfateb i ddwy fagina'r fenyw: un bon yn hollti'n ddau bidyn.[4][5] Mae Marswpials fel arfer yn datblygu eu hepil mewn llopgell neu boced allanol sy'n cynnwys tethi y mae eu babanod newydd-anedig (a elwir yn Saesneg Awstralaidd yn 'joeys') yn ymlynu wrtho tra'n sugno teth ei fam. Hefyd, mae gan marswpial sgrotwm unigryw iawn.[6]

O ran gwrywod, mae'r pidyn mamalaidd yn debyg i bidynau ymlusgiaid a chanran fechan o adar ond mae'r ceillgwd yn bresennol mewn mamaliaid yn unig. O ran benywod, mae'r fwlfa yn unigryw i famaliaid heb unrhyw debygrwydd mewn adar, ymlusgiaid, amffibiaid na physgod.[7][8][9] Fodd bynnag, gellir dod o hyd i'r clitoris mewn ymlusgiaid ac estrys.[10] Yn lle'r groth a'r fagina, mae gan grwpiau o fertebratau nad ydynt yn famaliaid wyffos (oviduct) heb ei addasu sy'n arwain yn uniongyrchol at gloaca, sef twll neu allanfa a rennir ar gyfer gametau, wrin, ac ymgarthion. Mae'r monotremiad (hy platypws a'r ecidna), grŵp o famaliaid sy'n dodwy wyau, hefyd yn brin o groth, fagina a fwlfa, ac yn hynny o beth mae ganddynt system atgenhedlu sy'n debyg i system yr ymlusgiaid.

Mewn cŵn domestig, mae aeddfedrwydd rhywiol (glasoed) yn digwydd rhwng 6 a 12 mis oed ar gyfer gwrywod a benywod, er y gellir gohirio hyn hyd at ddwy flwydd oed ar gyfer rhai bridiau mawr.

Ceffylau
golygu

Mae system atgenhedlu'r gaseg yn gyfrifol am reoli beichiogrwydd, genedigaeth a llaetha, yn ogystal â'i chylchred oestrws a'i hymddygiad paru. System atgenhedlu'r march sy'n gyfrifol am ei ymddygiad rhywiol a'i nodweddion rhyw eilaidd (fel crib mawr).

Artiodactyla (Carnolion eilrif-fyseddog)
golygu

Mae gan pob carnol eilrif-fyseddog bidyn siâp-S pan fo'r anifail yn llonydd; mae'n gorwedd mewn poced o dan y croen ar y bol. Nid yw'r corpora cafernosa (y sbwng mewnol sy'n gynorthwyo codiad) ond wedi datblygu ychydig; mae codiad yn peri i'r pidyn ymestyn ond nid tewhau. Mae gan forfilod bidynau tebyg.[11] Mewn rhai carnolion eilrif-fyseddog mae'r pidyn yn cynnwys strwythur a elwir yn broses wrethrol.[12][13]

Mae'r ceilliau wedi'u lleoli yn y ceillgwd (y sgrotwm) ac felly wedi'u lleoli y tu allan i geudod yr abdomen. Mae ofarïau llawer o anifeiliaid benywaidd yn disgyn - yn debyg iawn i geilliau mamaliaid gwrywaidd - ac maent yn agos at gilfach y pelfis ar lefel y pedwerydd fertebra meingefnol. Mae gan y groth ddau gorn a elwir yn Lladin yn wterws bicornis.[11]

Mae gan adar gwrywaidd a benywaidd gloaca, agoriad lle mae wyau, sberm a gwastraff yn mynd trwyddo. Perfformir cyfathrach rywiol trwy wasgu gwefusau'r cloacae gyda'i gilydd, a elwir yn ffalws, sy'n cyfateb i bidyn mewn mamaliaid. Mae'r fenyw yn dodwy wyau amniotig lle mae'r ffetws ifanc yn parhau i ddatblygu ar ôl iddo adael corff y fenyw. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o fertebratau, fel arfer dim ond un ofari ac wyffos gweithredol sydd gan adar benywaidd.[14] Fel grŵp, mae adar, fel mamaliaid, yn nodedig am ofal rhieni arbennig.

Ymlusgiaid

golygu

Mae bron pob ymlusgiaid yn ddeumorffig yn rhywiol, ac yn arddangos ffrwythloniad mewnol trwy'r cloaca. Mae rhai ymlusgiaid yn dodwy wyau tra bod eraill yn geni cywion byw. Mae organau atgenhedlu i'w cael o fewn cloaca'r ymlusgiaid ac mae gan y rhan fwyaf o ymlusgiaid gwrywaidd organau ryw sydd fel arfer yn cael eu tynnu'n ôl neu eu gwrthdroi a'u storio y tu mewn i'r corff. Mewn crwbanod a chrocodeiliaid, mae gan y gwryw organ ganolrif tebyg i'r pidyn, tra bod gan nadroedd a madfallod gwrywaidd bâr o organau tebyg i'r pidyn.

Amffibiaid

golygu

Mae'r rhan fwyaf o amffibiaid yn ffrwythloni eu hwyau'n allanol, yn nodweddiadol o fewn y dŵr, er bod gan rai amffibiaid fel caeciliaid ffrwythloniad mewnol.[15] Mae gan bob un bâr o gonadau mewnol, wedi'u cysylltu â dwythellau i'r cloaga.

Pysgod

golygu

Mae pysgod yn arddangos ystod eang o wahanol strategaethau atgenhedlu. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf yn ddodwyol ac yn dangos ffrwythloniad allanol. Yn y broses hon, mae benywod yn defnyddio eu cloaca i ryddhau llawer iawn o'u gametau i'r dŵr ac mae'r gwryw yn rhyddhau "milt", hylif gwyn sy'n cynnwys llawer o sberm dros yr wyau er mwyn eu ffrwythloni.

Mae rhywogaethau eraill o bysgod yn ofiparaidd ac mae ganddynt ffrwythloniad mewnol gyda chymorth esgyll pelfig neu rhefrol sy'n cyfateb i'r pidyn dynol.[16] Mae cyfran fach o rywogaethau pysgod naill ai'n fywiol neu'n mewnddeorol (ovoviviparous).

Mae gonadau pysgod fel arfer yn barau o naill ai ofarïau neu geilliau ac mae'r rhan fwyaf o bysgod yn ddeumorffig yn rhywiol ond mae rhai rhywogaethau'n ddeurywiaid neu'n unrhywiol.

Infertebratau

golygu

Mae gan infertebratau amrywiaeth eang iawn o systemau atgenhedlu, a'r unig beth sy'n gyffredin efallai yw eu bod i gyd yn dodwy wyau. Hefyd, ar wahân i ceffalopodau ac arthropodau, mae bron pob infertebrat arall yn ddeurywaidd ac yn arddangos ffrwythloniad allanol .

Ceffalopodau

golygu

Mae pob seffalopodau yn ddeumorffig yn rhywiol ac yn atgenhedlu trwy ddodwy wyau. Ffrwythloniad lled-fewnol sydd gan y rhan fwyaf, lle mae'r gwryw yn gosod ei gametau y tu mewn i geudod mantell neu geudod paliaidd y fenyw i ffrwythloni'r ofa a geir yn ofari'r fenyw. Yn yr un modd, dim ond un gaill sydd gan seffalopodau gwrywaidd. Yn y rhan fwyaf o seffalopodau benywaidd, mae'r chwarennau nidamental yn helpu i ddatblygu'r wy.

Pryfed

golygu

Mae'r rhan fwyaf o bryfed yn atgenhedlu'n ddodwyol, hy trwy ddodwy wyau. Cynhyrchir yr wyau gan y fenyw mewn pâr o ofarïau. Mae sberm, a gynhyrchir gan y gwryw mewn un caill neu fel arfer mewn dau gaill, yn cael ei drosglwyddo i'r fenyw yn ystod paru trwy organau cenhedlu allanol. Mae'r sberm yn cael ei storio o fewn y fenyw mewn un neu fwy o sbermathecae. Ar adeg ffrwythloni, mae'r wyau'n teithio ar hyd yr wyffosydd (oviducts) i gael eu ffrwythloni gan y sberm ac yna'n cael eu diarddel o'r corff ("osod"), gan amlaf trwy wy-ddodydd.

Arachnidau

golygu

Efallai y bydd gan Arachnids un neu ddau o gonadau, sydd wedi'u lleoli yn yr abdomen. Mae'r agoriad genital fel arfer wedi'i leoli ar ochr isaf yr ail segment o'r abdomen. Yn y rhan fwyaf o rywogaethau, mae'r gwryw yn trosglwyddo sberm i'r fenyw mewn pecyn, neu sbermatoffor. Mae defodau carwriaeth gymhleth wedi esblygu mewn llawer o arachnidau i sicrhau bod y sberm yn cael ei ddosbarthu'n ddiogel yn y fenyw.[17]

Mae arachnids fel arfer yn dodwy wyau melynwy, sy'n deor yn anaeddfed ac sy'n debyg i oedolion. Mae sgorpionau, fodd bynnag, naill ai'n ddodwyol neu'n fywesgorol, yn dibynnu ar rywogaethau, ac yn geni'n fyw.

Planhigion

golygu

Ymhlith yr holl organebau byw, blodau, sef strwythurau atgenhedlu planhigyn blodeuol, yw'r rhai mwyaf amrywiol yn weledol, gysad amrywiaeth mawr o ddulliau atgenhedlu.[18] Mae gan blanhigion nad ydyn nhw'n blanhigion blodeuol (algâu gwyrdd, mwsoglau, llysiau'r afu, anthocerotophyta, rhedyn a gymnospermau fel conwydd) hefyd gydadweithiau cymhleth rhwng addasu morffolegol a ffactorau amgylcheddol yn eu hatgenhedlu rhywiol. Mae'r system fridio, neu sut mae sberm o un planhigyn yn ffrwythloni ofwm planhigyn arall, yn dibynnu ar y morffoleg atgenhedlu. Astudiodd Christian Konrad Sprengel (1793) atgenhedlu planhigion blodeuol ac am y tro cyntaf deallwyd bod y broses peillio yn cynnwys rhyngweithio biotig ac anfiotig.

Ffyngau

golygu

Mae atgenhedlu ffwngaidd yn gymhleth, gan adlewyrchu'r gwahaniaethau mewn ffordd o fyw a chyfansoddiad genetig o fewn y deyrnas amrywiol hon o organebau.[19] Amcangyfrifir bod traean o'r holl ffyngau yn atgenhedlu gan ddefnyddio mwy nag un dull o luosogi; er enghraifft, gall atgenhedlu ddigwydd mewn dau gam sydd wedi'u gwahaniaethu'n dda o fewn cylch bywyd rhywogaeth, y teleomorff a'r anamorff.[20] Mae amodau amgylcheddol yn sbarduno cyflyrau datblygiadol a bennir yn enetig sy'n arwain at greu strwythurau arbenigol ar gyfer atgenhedlu rhywiol neu anrhywiol. Mae'r adeileddau hyn yn cynorthwyo atgenhedlu trwy wasgaru sborau neu bropaganau sy'n cynnwys sborau.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Reproductive System 2001 Body Guide powered by Adam
  2. Schultz, Nicholas G., et al. "The baculum was gained and lost multiple times during mammalian evolution." Integrative and comparative biology 56.4 (2016): 644-656.
  3. "The evolution of the scrotum and testicular descent in mammals: a phylogenetic view". J. Theor. Biol. 196 (1): 61–72. January 1999. Bibcode 1999JThBi.196...61W. doi:10.1006/jtbi.1998.0821. PMID 9892556.
  4. C. Hugh Tyndale-Biscoe (2005). Life of Marsupials. Csiro Publishing. ISBN 978-0-643-06257-3.
  5. Don II Hunsaker (2 December 2012). The Biology of Marsupials. Elsevier Science. ISBN 978-0-323-14620-3.
  6. Renfree, Marilyn; Tyndale-Biscoe, C. H. (1987). Reproductive physiology of marsupials. Cambridge, UK: Cambridge University Press. ISBN 0-521-33792-5.
  7. Trefil, James (2001). The Encyclopedia of Science and Technology. Taylor & Francis. t. 276. ISBN 978-1-13675-363-3. Cyrchwyd November 10, 2023.
  8. Armstrong, David M.; Fitzgerald, James P.; Meaney, Carron A. (2011). Mammals of Colorado, Second Edition. University Press of Colorado. t. 37. ISBN 978-1-60732-048-7. Cyrchwyd November 10, 2023.
  9. Cobaugh, Aaron M.; Stoner, John B.; Irwin, Mark D. (2013). Zookeeping:An Introduction to the Science and Technology. University of Chicago Press. tt. 124–125. ISBN 978-0-22692-532-5. Cyrchwyd November 10, 2023.
  10. Kotpal 2010
  11. 11.0 11.1 Uwe Gille (2008). urinary and sexual apparatus, urogenital Apparatus. In: F.-V. Salomon and others (eds.): Anatomy for veterinary medicine. tt. 368–403. ISBN 978-3-8304-1075-1.
  12. Spinage, C. A. "Reproduction in the Uganda defassa waterbuck, Kobus defassa ugandae Neumann." Journal of reproduction and fertility 18.3 (1969): 445-457.
  13. Sumar, Julio. "Reproductive physiology in South American Camelids." Genetics of Reproduction in Sheep (2013): 81.
  14. Ritchison. BIO 554/754 Ornithology. Eastern Kentucky University.
  15. Grzimek, B. (1974). Grzimek's Animal Life Encyclopedia: Volume 5 Fishes II & Amphibians. New York: Van Nostrand Reihnhold Co. tt. 301–302. ASIN B000HHFY52.
  16. Fish Reproduction
  17. Robert D. Barnes (1982). Invertebrate Zoology. Philadelphia, PA: Holt-Saunders International. tt. 596–604. ISBN 0-03-056747-5.
  18. Barrett, S.C.H. (2002). "The evolution of plant sexual diversity". Nature Reviews Genetics 3 (4): 274–284. doi:10.1038/nrg776. PMID 11967552. http://labs.eeb.utoronto.ca/barrett/pdf/schb_189.pdf. Adalwyd 2015-06-05.
  19. Alexopoulos et al., pp. 48–56.
  20. Kirk et al., p. 633.


Cyfeiriadau

golygu