Asgwrn

(Ailgyfeiriad oddi wrth Esgyrn)

Mae asgwrn yn feinwe gyswllt ddwys galcheiddiedig fandyllog a lled-anhyblyg sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o sgerbwd mewnol fertebratau. Mae'n hen air Celtaidd; fe'i ceir yn ysgrifenedig yn Gymraeg am y tro cyntaf oddeutu'r 12ed ganrif yn Llyfr Du yr Waun. Eu diben yw cynorthwyo'r corff i symud, ei gynnal ac amddiffyn yr organau mewnol. Mae hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu celloedd amrywiol y gwaed ac am storio mwynau. Mae 'na esgyrn o siapau amrywiol hefyd ac fe'i gwneir i fod yn du hwnt o ysgafn, ond eto'n gryf.

Bone, England, 1870-1909 Wellcome L0057379.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o strwythurau anatomegol, dosbarth o endid anatomegol Edit this on Wikidata
Mathorgan anifail, cynnyrch anifeiliaid, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan osgerbwd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmer esgyrn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Un o'r meinweoedd sy'n creu'r asgwrn yw'r 'meinwe'r asgwrn' sy'n rhoi iddo'r priodwedd arbennig o gryfder oherwydd ffurf crwybr gwenyn sydd iddynt (ffurf chweonglog tri dimensiwn). Y mathau eraill o feinwe y gellir ei ganfod yn yr asgwrn yw'r mêr, yr endostëwm, y periostëwm, y nerfau, y pibellau gwaed a'r cartilag. Mae 206 asgwrn gwahanol yn y sgerbwd oedolyn a 270 mewn babi.

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am asgwrn
yn Wiciadur.
Skull template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.