Glen Webbe
Mae Glen Webbe (ganwyd 21 Ionawr 1962) yn gyn-chwaraewr rhyngwladol rygbi'r undeb Cymru. Roedd yn chwarae yn safle asgellwr ac ef oedd y chwaraewr du cyntaf i gynrychioli Cymru, pan gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Tonga ar 12 Mehefin 1986 (y chwaraewr cyntaf oedd Mark Brown, Newport Flanker yn gynharach y flwyddyn honno [1]).
Enw llawn | Glenfield Michael Charles Webbe | ||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 21 Ionawr 1962 | ||
Man geni | Cardiff, Wales | ||
Gyrfa rygbi'r undeb | |||
Gyrfa'n chwarae | |||
Safle | Asgellwr | ||
Clybiau amatur | |||
Blynyddoedd | Clwb / timau | ||
1981-1995 | Bridgend RFC | ||
Timau cenedlaethol | |||
Blynydd. | Clybiau | Capiau | |
1986-1988 | Cymru | 10 | (16) |
Chwaraeodd Webbe ei rygbi clwb i Glwb Rygbi Pen-y-bont ar Ogwr ac roedd yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 1987. [2] Sgoriodd hat-tric yn y gêm yn erbyn Tonga.[1] (noder camgymeriad bod erthygl yn y Western Mail yn dweud mai Ffiji oedd y gwrthwynebwyr[2]).
Cafodd Webbe 10 gap i Gymru yn ystod ei yrfa.[1] Ef oedd y chwaraewr cyntaf i sgorio hat-tric yng ngemau Cwpan y Byd.[3]
Ymddangosodd dros dîm Pen-y-bont 404 gwaith gan sgorio 250 cais.[3]
Bywyd
golyguMagwyd ef yn Nhrelái, maestref ar ochr orllewinnol Caerdydd gan fynychu Ysgol Gynradd Herbert Thompson ac Ysgol Uwchradd Glan Ely. Roedd ei rieni wedi ymfudo i Gaerdydd o ynys St Kitts yn y Caribî.
Ei uchelgais oedd chwarae i Gaerdydd ond awgrymwyd iddo bod Caerdydd yn llawn "clîcs" ac y byddai'n well iddo ymgeisio am dîm Pen-y-bont.[2]
Dioddefodd peth hiliaeth yn ei erbyn fel chwaraewr rygbi. Unwaith bu i un o'r dorf mewn gêm Pen-y-bont yn erbyn Clwb Rygbi Maesteg daflu banana ato ar y cae fel sen. Cododd Webb y banana, cymryd brathiad ohono a'i daflu nôl at y person.[3]
Mae'n gyfaill agos i Gareth Thomas a bu'n ddigon agos iddo fel cyfaill fel i Thomas gyfaddef ei fod yn hoyw wrtho cyn gwneud hynny'n gyhoeddus i eraill.[2]
Ymddangosodd hefyd fel cystadleuydd yn 2il gyfres y Gladiators Show Teledu Prydeinig. Cafodd ei ddileu yn y rownd gyntaf.
Llyfryddiaeth
golygu- Budd, Terry (2017). That Great Little Team On The Other Side Of The Bridge:The 140 Year History of Canton RFC (Cardiff) Season 1876-77 to 2016-17. Penarth, Glamorgan: Beacon Printers Ltd.
- Webbe Still Works Wonders On The Wing, The Independent Archifwyd 2019-08-18 yn y Peiriant Wayback
Dolenni
golygu- Erthygl Archifwyd 2019-08-18 yn y Peiriant Wayback
- 'Try of the Week' ar raglen Scrum V, BBC Wales
- Glen Webbe ar IMDb
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 http://news.bbc.co.uk/sport1/hi/rugby_union/welsh/6129776.stm
- ↑ 2.0 2.1 2.2 https://www.walesonline.co.uk/sport/rugby/rugby-news/how-life-turned-out-glen-15213382
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-18. Cyrchwyd 2019-08-18.