Gliese 581 d
Chwaer y blaned allheulol Gliese 581 c ydy Gliese 581 d. Fel ei chwaer, mae Gliese 581 d yn blaned ddaearol fawr, (Saesneg: super-earth), ac mae hi'n chwaer fawr, gyda chrynswth sydd 7.7 gwaith yn fwy na'r Ddaear (nid ydy Gliese 581 c ond pum gwaith yn fwy).
Enghraifft o'r canlynol | unconfirmed exoplanet |
---|---|
Màs | 0.019 |
Dyddiad darganfod | 24 Ebrill 2007 |
Cytser | Libra |
Echreiddiad orbital | 0.205 ±0.08 |
Paralacs (π) | 158.7492 ±0.052 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tra bod lleoliad Gliese 581 c ar ochr gynnes ardal drigiadwy'r seren Gliese 581, mae lleoliad y blaned Gliese 581 d ar gyrion ochr oer yr ardal yma, rhyw 0.25 o Unedau Seryddol oddi wrth y corrach coch, ac mae hi'n cymryd 84.4 o ddyddiau i gylchio'r seren fach. Serch ei lleoliad, credir bod yna bosibilrwydd y gall bywyd fodoli arni os ydy cyflwr atmosfferig y blaned yn creu effaith tŷ gwydr, sydd yn debygol iawn yn ôl modelau damcanol.
Mae cysawd y corrach coch Gliese 581 yng nghytser y Fantol felly yn un sydd o ddiddordeb mawr i wyddonwyr, oherwydd presenoldeb dwy blaned a all gynnal bywyd.