Bywyd
Bywyd yw'r hyn sy'n galluogi organeb fyw i gymhwyso deunydd heb fywyd o'i hamgylchedd a'i ddefnyddio i dyfu mewn maint a chymhlethder, i adnewyddu ei deunydd biolegol ei hun ac i atgynhyrchu organebau eraill annibynnol sydd hefyd yn meddu ar nodweddion bywyd.
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | nodwedd ![]() |
Math | bodolaeth, ffenomen naturiol, ffenomen, lyfe ![]() |
Y gwrthwyneb | marwolaeth ![]() |
Rhan o | organeb byw, y Ddaear ![]() |
Yn cynnwys | proses fiolegol, organeb byw, marwolaeth ![]() |
![]() |
Credir fod bywyd ar y Ddaear wedi dechrau tua 4,500,000,000 o flynyddoedd yn ôl (mae amcangyfrifon mwy ceidwadol yn ei dyddio i o gwmpas 3,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Y pryd hynny roedd yr awyr wedi'i chyfansoddi o nwyon methan, hydrogen, amonia a stêm dŵr. Credir i organebau moleciwlaidd syml gael eu ffurfio mewn canlyniad i'r grym a ollyngid gan belydrau'r haul, mellt a ffrwydriadau llosgfynyddoedd. Organebau ungellog oeddynt.
Mae'n dra thebygol mai yn y môr y datblygodd yr organebau cyntefig hyn i gynnwys enseimau (enzymes) a datblygu'n organebau amlgellog a gynhyrchai RNA a DNA. Gyda threigliad maith iawn amser - tua 1,500,000,000 neu ragor o flynyddoedd - arweiniodd hyn at y planhigion cyntefig cyntaf oedd yn gallu dal grym y goleuni a datblygu ffotosynthesis.
Y canlyniad oedd i ocsigen gael ei rhyddhau i'r awyr ar raddfa cynyddol, proses a ddechreuodd tua 2,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Erbyn tua 400 miliwn roedd yr haen oson yn yr awyrgylch yn ddigon trwchus i gysgodi'r tir rhag ymbelydredd uwchfioled gan ei gwneud yn haws o lawer i blanhigion mwy cymhleth a'r anifeiliad cyntefig cyntaf oroesi. Daeth y rhan fwyaf o bethau byw i ddefnyddio anadlu aerobig a dechreuodd bywyd amlhau ar wyneb y ddaear.
Priodoleddau bywydGolygu
Saith priodoledd bywyd yw symud, ysgarthu, anadlu, teimlo, atgenhedlu, tyfu ac ymborthi.
- Mae'n rhaid i bopeth byw fedru symud.
- Rhaid cael maeth.
- Mae popeth byw yn dangos sensitifedd.
- Mae popeth byw yn ysgarthu.
- Maent i gyd yn anadlu.
- Mae popeth byw yn tyfu.
- Mae popeth byw yn atgenhedlu.
Gweler hefydGolygu
- Parth Glas - ardal ddemograffig a/neu ddaearyddol yn y byd lle y mae llawer o bobl yn byw bywydau hir.
- Astrofioleg
- Esblygiad
- Marwolaeth