Prifysgol Caerdydd
Prifysgol ym Mharc Cathays, Caerdydd a sefydlwyd ym 1883 yw Prifysgol Caerdydd (Saesneg: Cardiff University). Roedd hi'n aelod Prifysgol Cymru tan 2004.
Prifysgol Caerdydd | |
---|---|
Prif adeilad Prifysgol Caerdydd | |
Arwyddair | "Gwirionedd Undod A Chytgord" |
Sefydlwyd | 1883 (fel University College of South Wales & Monmouthshire) |
Canghellor | Syr Martin Evans |
Is-ganghellor | Yr Athro Colin Riordan |
Staff | 5,230 |
Myfyrwyr | 30,930[1] |
Israddedigion | 21,800[1] |
Ôlraddedigion | 7,840[1] |
Myfyrwyr eraill | 1,290[1] |
Lleoliad | Caerdydd, Cymru |
Campws | Trefol |
Lliwiau | Du a choch |
Tadogaethau | Russell Group EUA Prifysgol Cymru Universities UK |
Gwefan | http://www.caerdydd.ac.uk/ |
Mae Prifysgol Caerdydd yn un o brif brifysgolion ymchwil y byd, gyda thros 60% o'r ymchwil a wneir yng Nghaerdydd wedi ei ystyried ymysg y gorau yn y byd.[2] Yn hynny o beth, mae Prifysgol Caerdydd yn un o brifysgolion Grŵp Russell.
Sefydlwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy ym 1883, ac fe'i gorfforwyd trwy Siarter Frenhinol ym 1884. Ym 1931, gwahanwyd yr Ysgol Feddygaeth oddi wrth y Coleg er mwyn ffurfio Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru. Ym 1972, ail-enwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy fel Coleg Prifysgol, Caerdydd.[3] Ym 1988, oherwydd uno Coleg Prifysgol, Caerdydd ac Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru, cafodd y sefydliad yr enw "Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd". Newidiwyd hynny i "Brifysgol Cymru, Caerdydd" ym 1996, a wedyn yn 2004, ail-unwyd Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru gyda Phrifysgol Cymru, Caerdydd ac fe gymrodd y sefydliad yr enw swyddogol "Prifysgol Caerdydd".
Fel rhan o’i hymrwymiad parhaus i’r Gymraeg, mae Prifysgol Caerdydd wedi addo £22,000 i ŵyl flynyddol Tafwyl mewn prif gytundeb noddi tair blynedd.[4]
Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd
golyguHon yw un o'r adrannau Cymraeg hynaf, ac yma mae'r Gadair Gymraeg sefydledig hynaf yng Nghymru. Am dros ganrif y mae wedi cyfrannu'n helaeth i fywyd Cymru ac wedi bod yn gartref ac yn feithrinfa i ysgolheigion a llenorion amlwg, gan gynnwys W. J. Gruffydd, G. J. Williams, A. O. H. Jarman a Saunders Lewis.
Mae'r Ganolfan Cymraeg i Oedolion, sy'n rhan or Ysgol, yn dysgu’r iaith i dros 1,700 o oedolion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r Ysgol hefyd yn gartref i Ganolfan Uwchefrydiau Cymry America ac i Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Table 0a - All students by institution, mode of study, level of study, gender and domicile 2006/07. Higher Education Statistics Agency. Adalwyd ar 20 Ebrill 2008.
- ↑ http://www.guardian.co.uk/education/2009/may/10/universityguide-cardiff-uni Canllaw y Guardian i'r Brifysgol, 2013.
- ↑ http://www.hefcw.ac.uk/about_he_in_wales/higher_education_institutions/cardiff_university.aspx Archifwyd 2013-07-27 yn y Peiriant Wayback Tudalen y Brifysgol ar wefan HEFCW.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-20. Cyrchwyd 2014-04-01.
- ↑ Gwefan Ysgol y Gymraeg
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Prifysgol Caerdydd
- Gwefan swyddogol Grwp Prifysgolion Russell
- Gwefan swyddogol Prifysgol Cymru Archifwyd 2013-04-02 yn y Peiriant Wayback
- Prifysgol Caerdydd - Amdanom ni
- Cyfrif Twitter Ysgol y Gymraeg
- Cyfrif Facebook Ysgol y Gymraeg
- Prifysgol Caerdydd yn noddi Tafwyl Archifwyd 2014-03-20 yn y Peiriant Wayback