Go Tell It on the Mountain
Nofel led-hunangofiannol gan James Baldwin yw Go Tell It on the Mountain a gyhoeddwyd ym 1953. Mae'n ymwneud â pherthynas yr Eglwys Gristnogol â'r gymuned a'r teulu Affricanaidd-Americanaidd. Daw teitl y llyfr o'r gân ysbrydol o'r un enw, a elwir yn "Dos Dywed ar y Mynydd" yn Gymraeg. Hon oedd nofel gyntaf James Baldwin.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | James Baldwin |
Cyhoeddwr | Alfred A. Knopf |
Gwlad | UDA |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1953 |
Dyddiad cyhoeddi | 1953 |
Genre | nofel hunangofiannol, llenyddiaeth Affro-Americanaidd |
Prif bwnc | Harlem, racial segregation in the United States, hiliaeth |
Lleoliad y gwaith | Harlem |
Rhennir y nofel yn dair rhan. Yn y rhan gyntaf cyflwynir stori'r prif gymeriad, John Grimes, llanc croenddu sydd yn llysfab i bregethwr Pentecostaidd. Yn yr ail ran, datgelir hanesion yr oedolion sydd ym mywyd John, ac yma mae disgrifiadau o gamdriniaeth, trais, hiliaeth, ffydd, euogrwydd a gwaredigaeth. Yn rhan olaf y nofel portreadir defod eglwysig mewn delweddau megis breuddwyd, wrth i John geisio deall ei rywioldeb a'i ffydd.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Samuels, Wilfred. Encyclopedia of African-American Literature (Efrog Newydd: Facts On File, 2007), t. 211.
Darllen pellach
golygu- Alexander, Charlotte A. Baldwin's Go Tell It on the Mountain, Another Country, and Other Works: A Critical Commentary (Efrog Newydd: Monarch Press, 1966).
- Harris, Trudier (gol.) New Essays on Go Tell It on the Mountain (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1996).
- Henderson, Carol E. (gol.) James Baldwin's Go Tell It on the Mountain: Historical and Critical Essays (Efrog Newydd: Peter Lang, 2006).
- Knight Jr., Dennis Ray. "Time to Tell Archifwyd 2017-12-02 yn y Peiriant Wayback", James Baldwin Review 3.1 (2017), tt. 131–151.