Godro
Y weithred o dynnu llefrith allan o bwrs anifail, megis buwch, gafr neu ddafad, yw godro. Gellir godro gwartheg gan ddefnyddio dwylo neu beiriant.
Enghraifft o'r canlynol | dull magu anifeiliaid, gweithgaredd amaethyddol |
---|---|
Rhan o | magu anifeiliaid |
Cynnyrch | llaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Caiff godro gyda llaw i gyflawni drwy dylino a tynnu ar dethau pwrs yr anifail. Bydd y person sy'n godro yn eistedd ar stôl fel rheol, gan chwistrellu'r llaeth i mewn i fwced rhwng eu coesau.
Mae peiriant godro yn tynnu'r llefrith allan drwy ddefnyddio gwactod. Mae cwpanau teth y peiriant yn cael eu cysylltu i dethau'r anifail. Mae'r pwysedd awyr yn y cwpanau yn cyfnewid yn gyson, maent yn creu gwactod, ac yna'n dychwelyd i bwysedd arferol, gan achosi i'r llefrith gael ei dynnu heb niweidio tethau'r anifail. Mae'r llefrith yn teithio o'r cwpanau trwy bibellau at danc mawr. Gellir godro nifer fawr o anifeiliaid ar unwaith fel hyn.
Godro ers talwm
golyguRhan o ysgrif i'w gweld yn Bwletin Llên Natur:
Y gwartheg godro (y fuches) fyddai yn cael y lle blaenaf mewn triniaeth ar y gwartheg eraill i gyd. Byddai ymdrech arbennig gan y cowmon i'w cadw mewn cyflwr glan a graenus gan mai yma yr oedd llawer o gynhaliaeth y teulu yn y cwestiwn. Buchod yn godro fyddai yn cael eu cadw wrth y tŷ, os byddai rhai hesb, yna byddent yn gorfod bod gyda'r bustach a'r heffrod eraill mewn beudai mewn llecynnau eraill o'r fferm. Gorchwyl cyntaf y bore fyddai carthu'r tail i'r domen cyn dechrau godro, wedyn byddai stôl drithroed ar gael ac ystên. Yr arferiad yn ddi-feth fyddai eistedd ar ochr dde'r fuwch i'w godro gan wasgu'r ystên rhwng eich dau ben glin, gafael mewn dwy deth a'u gwasgu mewn dull arbennig bob yn ail. Safon y godrwr fyddai trwch y ffroth ar wyneb yr ystên, byddai hynny yn brawf o'i grefft. Wedyn, dygid y llaeth i'r llaethdy neu'r bwtri fel ei gelwid a'i thywallt i ddysglau. Dysglau mawr llydain ei wyneb ond heb fod yn ddyfn. Fel y byddai'r llaeth yn oeri, byddai'r hufen yn codi i'r wyneb a gwaith dyddiol fyddai hufennu'r dysglau a chodi'r hufen a'i roi mewn pot llaeth cadw.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Godro a Menyn", Bwletin Llên Natur 65 (Gorffennaf 2013)
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) "Milk Academy"