Llaeth

hylif gwyn a gynhyrchir gan famolion benyw
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llefrith)

Mae mamalau yn cynhyrchu llefrith neu llaeth i fwydo eu rhai bach. Mae llefrith/llaeth yn cynnwys llawer o faetholynnau sydd yn addas i anifeiliaid bach sydd ddim yn gallu treulio bwyd caled.

Llaeth buwch mewn gwydryn

Mae llefrith pob rhywogaeth yn arbennig ac yn addas i'w anghenion. Er enghraifft mae llefrith merch yn cynnwys llawer o lactos, math o siwgr, ond does dim cymaint o siwgr ond llawer o brotein mewn llefrith buwch. Mae llaeth buwch yn cynnwys braster llaeth (3.5 %), soledau llefrith (8.5 %) a dŵr (88 %). Y protein pennaf yw casein.

Mae pobl yn defnyddio llefrith rhai anifeiliaid, yn bennaf llefrith buwch, gafr, ceffyl, dafad a byfflo dŵr, i wneud hufen, menyn, caws, iogwrt a hufen iâ.

Babi yn sugno llaeth ei fam
Myn yn sugno llaeth ei fam
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Foodlogo.svg Eginyn erthygl sydd uchod am fwyd neu ddiod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am llaeth
yn Wiciadur.