Gofod metrig
Ym mathemateg, mae gofod metrig yn set sydd â diffiniad o bellter rhwng ei elfennau. Y gofod metrig sy'n cyd-fynd yn agosaf a'n dealltwriaeth greddfol o ofod yw'r gofod Ewclidaidd 3-dimensiwn. Mae metrig ewclidaidd y gofod hwn yn diffinio'r pellter rhwng dau bwynt fel hyd y linell syth sy'n eu cysylltu. Mae geometreg gofod yn dibynnu ar ba metrig yr ydym yn ei dewis, ac trwy ddefnyddio gwahanol metrigau, gallwn adeiladu geometrigau an-Ewclidaidd, mae'r rhai a defnyddir yn theori cymaroldeb cyffredinol yn enghraifft
Mae gofod metrig yn anwytho priodweddau topologaidd megis setiau agored a setiau cauedig, sy'n arwain i astudiaeth o ofodau topolegol, sydd yn fwy cyffredinol.
Hanes
golyguCyflwynodd Maurice Fréchet gofodau metrig yn ei waith Sur quelques points du calcul fonctionnel, Rendic. Circ. Mat. Palermo 22(1906) 1-74.
Diffiniad
golyguMae gofod metrig yn bâr trefniedig (X,d), lle mae X yn set a d yn fetrig ar X, hynny yw, yn ffwythiant
- d : X × X → R
sy'n bodlonni
- d(x, y) ≥ 0 (an-negatif)
- d(x, y) = 0 os, a dim ond os x = y (unfathiant annirnadwyon)
- d(x, y) = d(y, x) (cymesuredd)
- d(x, z) ≤ d(x, y) + d(y, z) (anhafeledd triongl).
Gelwir d hefyd yn ffwythiant pellter, neu'n gryno, yn bellter. Yn aml, mae natur d yn amlwg o'r cyd-destyn, fe ellir hepgorir d, gan galw y gofod yn X.
Enghreifftiau
golygu- Mae'r rhifau real a'i ffwythiant pellter d(x, y) = |y - x| a roddir gan y ffwythiant modwlws, ac yn fwy cyffredinol Gofod Ewclidaidd a'i Pellter Ewclidaidd, yn ofodau metrig "complete".
- Y plân hyperbolig.
Gofodau Metrig fel Gofodau topologaidd
golyguMewn unrhyw ofod metrig M fe allem ddiffinio'r peli agored fel setiau o'r ffurf
- B(x; r) = {y yn aelod o M fel bod d(x,y) < r},
lle mae x yn aelod o M ac r yn rhif real, positif, a gelwir yn radiws y bêl. Gelwir is-set o M sy'n uniad o beli agored (gall fod nifer feidrol neu anfeidrol ohonynt) yn set agored. Gelwir set sy'n gyflenwad o set agored yn set caëdig. Yn anorfod, mae gofod metrig yn ofod topologaidd, gan gymryd fel topoleg y set o'r setiau agored i gyd. Gelwir gofod topologaidd o'r fath, hynny yw, un y mae'n bosib diffinio metrig arno, yn ofod medradwy.
Gan fod ofodau metrig yn ofodau topologaidd, anwythir cysyniad o ffwythiannau di-dor rhwng ofodau metrig. Ond, yn ogystal, mae'n bosib diffinio'r cysyniad o ddi-doredd heb gyfeirio i'r topoleg, trwy ystyried terfannau dilyniannau.
Ffinedigaeth a chrynoder
golyguFfinedigaeth (boundedness) a chrynoder (compactness).
Cyswllt allanol
golygu- "Far and near" — sawl enghraifft o ffwythiannau pellter.