Caltha palustris
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Urdd: Ranunculales
Teulu: Ranunculaceae
Genws: Caltha
Rhywogaeth: '''''
Enw deuenwol
Caltha palustris

Llysieuyn blodeuol bychan lluosflwydd cynhenid yw Gold y gors sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Ranunculaceae ac yn mynychu cynefinoedd gwlyg sydd heb fod yn rhy asidig[1]. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Caltha palustris a'r enw Saesneg yw Marsh-marigold.[2] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Melyn y Gors, Aur y Gors, Cwpanau'r Brenin, Gold Mair, Gold y Gors, Llysiau Mair, Rhuddlas y Gors, Rhuddos Mai, Rhuddos y Gors, Rhuddos y Morfa, Sawdl y Fuwch, Troed yr Ebol, Troed yr Ebol y Gors.

Mae'r blodau'n gymesur ac yn ddeuryw. Nodwedd arbennig y planhigyn hwn yw bod y sepalau'n lliwgar ac yn edrych yn debyg iawn i betalau. Ceir ychydig lleia erioed o wenwyn o fewn y planhigyn: protoanemonin,sy'n wenwyn i anifail a dyn, alcaloidau neu glycodidau. Mae'n perthyn yn agos i flodyn menyn a'r lili ddŵr.

Hanes yng Nghymru a Phrydain golygu

Dyma un o blanhigion cynhenid mwyaf hynafol, gan iddo, yn ôl pob tebyg, oroesi'r oesoedd ia a ffynnu ar ôl yr enciliad olaf mewn tirwedd o ddyfroedd tawdd y rhewlifoedd. Hyd at ddwy ganrif yn ôl, cyn traenio'r gwlyptiroedd yn helaeth buasai gold y gors yn un o blahigion amlycaf y gwanwyn cynnar. Fel yr â'r sychu rhagddo mae gold y gors yn parhau ar drai.[3]. Fodd bynnag, dengys arolygon cynhwysfawr yr hanner canrif ddiwethaf bod y planhigyn yn dal ei dir ac yn tyfu'n wyllt mewn mwyafrif helaeth o unedau 10Km2 Cymru a Phrydain [1]. Gan gofio hyn mae'n beth syndod nad oes cyfri am y planhigyn hwn fel meddyginiaeth yn Williams (2017)[4]

Tarddiad yr enwau golygu

Mae ei enw gwyddonol Caltha palustris yn dod o’r hen Roeg (Caltha) κάλαθος (kalathos), sy’n golygu “gobled/cobled" (cwpan) oherwydd mae'n debyg siâp blagur y blodau. Mae’r adenw palustris yn dod o’r Lladin ac yn golygu “o’r wern” sydd wrth gwrs yn cyfeirio at y cynefin lle mae gold y gors yn tyfu fel arfer[angen ffynhonnell].

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Preston, Pearson & Dines (2002) New Atlas of the British Flora Gwasg Prifysgol Rhydychen
  2. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  3. Maybey, R, (1996) Flora Britannica, Sinclair-Stevenson
  4. Williams, AE (2017) Meddyginiaethau Gwerin Cymru Gwasg y Lolfa
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: