Goldfinger (ffilm)
ffilm acsiwn, llawn cyffro a ffilm am ysbïwyr gan Guy Hamilton a gyhoeddwyd yn 1964
Y drydedd ffilm yng nghyfres James Bond yw Goldfinger (1964), a'r drydedd ffilm i serennu Sean Connery fel asiant cudd MI6 James Bond. Seiliwyd y ffilm ar nofel o'r un enw gan Ian Fleming. Mae Honor Blackman a Gert Fröbe hefyd yn actio yn y ffilm. Cynhyrchwyd y ffilm gan Albert R. Broccoli a Harry Saltzman, a dyma oedd y cyntaf o bedair ffilm i gael eu cyfarwyddo gan Guy Hamilton. Dilyna'r stori hanes Bond wrth iddo ddilyn smyglwr aur o'r enw Auric Goldfinger, sydd yn cynllwynio ffrwydrad niwclear yn storfa aur Fort Knox.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Guy Hamilton |
Cynhyrchydd | Harry Saltzman Albert R. Broccoli |
Ysgrifennwr | Ian Fleming |
Addaswr | Richard Maibaum Paul Dehn |
Serennu | Sean Connery Gert Fröbe Honor Blackman Harold Sakata |
Cerddoriaeth | John Barry |
Prif thema | Goldfinger |
Cyfansoddwr y thema | John Barry Leslie Bricusse Anthony Newley |
Perfformiwr y thema | Shirley Bassey |
Sinematograffeg | Ted Moore, BSC |
Golygydd | Peter R. Hunt |
Dylunio | |
Dosbarthydd | United Artists |
Dyddiad rhyddhau | 17 Medi 1964 |
Amser rhedeg | 110 munud |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Cyllideb | $3,000,000 (UDA) |
Refeniw gros | $124,900,000 |
Rhagflaenydd | From Russia With Love (1963) |
Olynydd | Thunderball (1965) |
(Saesneg) Proffil IMDb | |