Goleudy Mwmbwls

goleudy rhestredig Gradd II* yn Y Mwmbwls

Mae Goleudy'r Mwmbwls, a adeiladwyd ym 1794, yn oleudy sydd wedi'i leoli yn y Mwmbwls ger Abertawe. Gellir ei weld yn glir o unrhyw leoliad ar hyd arfordir Bae Abertawe, sydd yn bum milltir o hyd. Ynghyd â'r orsaf llong achub bywyd gerllaw, y goleudy hwn yw'r tirnod a ffotograffir fwyaf ym mhentref y Mwmbwls.

Goleudy Mwmbwls
Mathgoleudy Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1794 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadY Mwmbwls Edit this on Wikidata
SirAbertawe, Y Mwmbwls Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr15.1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5668°N 3.97108°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Ceir dwy haen i'r tŵr ac yn wreiddiol arferai dau dân glo agored gael eu harddangos yno. Am fod y tânau glo yma yn anodd i'w cynnal, peidiwyd a'u defnyddio ac yn hytrach defnyddiwyd tân olew unigol mewn lantern ddur.

Hanes y Lantern golygu

  • Ym 1860, uwchraddiwyd y golau olew i olau deioptrig ac adeiladwyd yr amddiffynfa o amgylch y tŵr gan y Weinyddiaeth Rhyfel.
  • Ym 1905, ychwanegwyd technoleg a alluogodd y golau i fflachio. Cafodd hyn ei awtomeiddio'n rhannol ym 1934.
  • Erbyn 1977, roedd cyflwr y lantern wedi dirywio a chafodd ei symud oddi yno. Ychwanegwyd lantern newydd ym 1987.
  • Ym 1995, symudwyd y prif olau ac ychwanegwyd ystod o baneli solar ac offer monitro mewn argyfwng.

Dolenni Allanol golygu