Awrora

Goleuni naturiol yn wybren y Ddaear, i'w gweld yn bennaf ym mhegynau'r Ddaear.
(Ailgyfeiriad o Goleuni'r Gogledd)

Goleuni naturiol yn wybren y Ddaear, i'w gweld yn bennaf ym mhegynau'r Ddaear (o gwmpas yr Arctig a'r Antarctig, yw awrora (lluosog: awrorau). Yn hemisffer y gogledd, mae weithiau yn cael ei gyfeirio ato fel gwawl y gogledd, goleuni'r gogleddffagl yr arth neu goleufer (aurora borealis). Yn hemisffer y de, mae'n cael ei alw'n gwawl y de neu goleuni'r de (aurora australis).

Awrora
Mathffenomen optegol, proses astroffiseg, electro-sêr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae awrorau yn cael eu cynhyrchu pan fydd y magnetosffer yn cael ei gyffroi gan wynt solar i'r graddau bod llwybr gronynnau sydd wedi'u gwefru yn y gwynt solar a'r plasma magnetosfferig, yn bennaf ar ffurf electronau a protonau, yn eu hyrddio i'r uwch atmosffer (thermosffer/ecsosffer) oherwydd maes magnetig y Ddaear, ble mae eu hegni yn cael ei golli.

Mae'r ïoneiddio a chyffroad y cyfansoddion atmosfferig o ganlyniad yn pelydru goleuni o wahanol liwiau a chymhlethdod. Mae ffurf yr awrora, sydd i'w weld o fewn i stribynnau o amgylch y pegynau, hefyd yn dibynnu ar gyflymiad y gronynnau sy'n cael eu hyrddio. Mae protonau fel arfer yn cynhyrchu tywyniadau optegol fel atomau hydrogen digwyddol ar ôl ennill electronau o'r atmosffer. Mae awrorau proton fel arfer i'w gweld ar ledredau is.[1]

Gwawl y De (Aurora australis) o loeren yr ISS, 2017

Llygad-dystion Cymreig

golygu
 
Williams Pantycelyn yn disgrifio gweld Awrora ym 1774[2]

Gwelir Awrora'r Gogledd (borealis) yn weddol rheolaidd o Gymru. Dyma ystod o enghreifftiau:

  • William Bulkeley: Cofnododd Bulkeley[3] iddo weld yr Awrora o Fôn chwe gwaith rhwng 1740 a 1750.
  • William Williams, Pantycelyn :The northern lights are only rarely visible in Britain and so it is hardly surprising then that this awesome spectacle acquired apocalyptic overtones when it was visible in Wales during the eighteenth century. William Williams of Pantycelyn, the Methodist hymnist and apologist, published a prose treatise in 1774 on this very phenomenon: Aurora Borealis: neu, Y Goleuni yn y Gogledd (Aberhonddu, 1774). Williams was a man of the Enlightenment and so he also presents the scientific arguments of the day, only to dismiss them in favour of an apocalyptic interpretation. His theological interpretation is detailed and precise; the lights are a sure sign of the success of the Gospel in the Last Days.[4]
  • Esgerdawe, Caerfyrddin: 25 Ionawr 1938: ev. Rev Jones & B Davies. A wonderful night. "Aurora Boreales" [sic] - Northern Lights. Patches of crimson with shafts of light across. Noson olau heb leuad.[5]
  • Lari Parc: "Mi welais i'r Aurora borealis ar ôl i mi gyrraedd Y Fron, tua gaeaf 2000 neu 2001. Rhaid, wrth feddwl, i'r peth ddigwydd rhwng tua 7 a 9 y nos. Yr oeddwn yn mynd am dro gyda'r nos yn y gaeaf o gwmpas y Fron, a dyma fi'n gweld rhywbeth oren yn yr awyr ac ar y gorwel gogledd dwyreiniol. Yr oeddwn yn meddwl i gychwyn bod Llandudno ar dân, ac oeddwn yn gweld dim ond y golau a gai ei adlewyrchu dros y mynyddoedd. Es i i le heb oleuadau stryd i gael gwell golwg, a dyma'r golau'n dechrau symud mewn tonau dros yr awyr: yr oedd yn ffurfio siapiau fel deunydd, neu lenni yn symud yn araf deg yn y gwynt. Yr oedd y ffurfiau'n mynd yn hynod o uchel i'r awyr. Yr oeddwn i'n edrych arnynt am tua awr, cyn i mi geisio darbwyllo pobl oeddwn yn eu nabod i gael cip ond nid oeddent yn fy nghredu i gychwyn, ac efo plant ifanc, dwi'n siwr bod hi'n annodd dilyn ffansi dyn sengl! Ond yn y diwedd dyma nhw'n dod allan i edrych. Yn anffodus, chawson nhw ddim eu taro gan hudoledd y ffenomenon.
Dwi'n deall mai eithaf anghyffredin ydy gweld yr aurora borealis o Gymru, ond wrth lwc, mi ydwyf wedi, a hyd yn oed pe bai neb yn fy nghredu, bydd y cof o'r peth gennyf nes i'r cof mynd yn wan"[6]
  • Newyddion y BBC: Cafodd Goleuni'r Gogledd ei gweld ar draws de Prydain 27 Chwefror 2014. Fe'i gwelwyd ym Môn, Machynlleth a chyn belled a Jersey yn ne Lloegr.
  • Keith O'Brien: Trawsfynydd Mawrth 2015 [cyfieithiad] Awrora dros Trawsfynydd, heno (22 Mawrth 2015), heno (anodd gweld gyda'r llygad ond fe'i codwyd gan y camera yn iawn)[7]
  • 10 Ionawr 2014: Gwawrio'n braf gyda chryn gochni yr yr awyr ond erbyn amser cinio wedi codi gwynt a glaw eto. Draw i Fae Treaddur i weld olion y storm - synnu gweld y traeth mor garregog, waliau wedi eu malu a sbwriel garw ym mhob cilfach. Y maes parcio i`w weld fel pwll nofio. Gweld ar wefan y Daily Post fod rhywun wedi medru tynnu llun Goleuadau`r Gogledd tua Llangollen neithiwr.[8]
  • 26 Ionawr 1938: Wel dyma ddiwrnod oerach er ei bod yn chwythu llai. Wel dyma olau neithiwr yn yr awyr a beth oedd o ond ryw "NORTHERN LIGHTS" neu rywbeth[9]

(Digwyddodd y goleuni hwn ar anterth y cylch smotiau haul o osgled 119.2.)[10]

  • 29 Mawrth 1939: O'r 20fed i'r 28ain: Goleuni y Gogledd aurora Borealis i weld yn yr hwyr. Tywydd ystormus, tymhestlog ac eirlaw.[11]
  • 25 Mawrth 1946: Goleuni y Gogledd i'w weld gyda'r nos.[11]

Llenyddiaeth

golygu

1769: Cerdd am y goleuni diweddar a welwyd yn yr awyr, a chomed a ymddangosodd yn 1769 gyda phle i achub Lloegr rhag Pabyddiaeth:

Beth yw gwaith, yr arwŷddion maith, sy’n lanwaith y leni?
Y Seren gynffon, ar goleuni;
Ond rhybŷdd hynod o’n trueni.
Gwelwn rybŷdd coeliwn rŷwbeth,
O air Duw’n dirion cyn bradwri’eth,
Dia y dâwo’i lidiog lâw, i’s awŷr frâw,
’Syw’eth;
Fel pobl Ninif gwnawn wahaniaeth, [Jonah, iii. 10]
Mae Duw’n wir hael arbedwr helaeth. [Esay, iv. 7.]
THO. EDWARDS a’i cant 1770 (Twm o’r Nant)

Nid yw’n glir a yw’r baledi sy’n cyfeirio at yr aurora borealus yn deilllo o brofiadau Cymreig ynteu a ydynt wedi eu haddasu o ffynonellau Seisnig.[4]

Etymoleg

golygu

Mae'r gair "awrora" yn tarddu o'r gair Lladin am "gwawr", gan fod cred ar un adeg mai golau cyntaf y wawr oedd awrorau.

gwawr
[H. Wydd. fáir ‘codiad haul, y dwyrain’: < IE. *u̯ōsri- o’r gwr. *au̯es- ‘disgleirio’ fel yn y Llad. aurōra, Gr. ἠώς, ἔως]
eb.g. ll. gwawriau, gwawroedd.
1. a Toriad dydd, codiad haul, y golau cyntaf ar ôl y nos, cyfddydd, glasddydd, plygain, y bore bach; goleuni sy’n cynyddu, llewyrch, hefyd yn ffig.[12]

Geirfa

golygu

Cyfeiriodd Sion Roberts [5] at y Northern Lights fel: Ffagl yr Arth gan Morris (1910).[13] Mae'r enw yng Ngeiriadur yr Academi hefyd (SW Wales meddai). Cyfeirio at yr arth wen, polar bear ... neu Ursa Major tybed?

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Simultaneous ground and satellite observations of an isolated proton arc at sub-auroral latitudes". Journal of Geophysical Research. 2007. Cyrchwyd 5 Awst 2015.
  2. LlGC - "Aurora Borealis neu, Y goleuni yn y gogledd fel arwydd o lwyddiant yr efengyl yn y dyddiau diweddaf "
  3. Dyddiaduron William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, Môn (gyda chaniatad Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor)
  4. 4.0 4.1 C. Charnell-White, "Literary Responses to extreme Weather in eighteenth Wales" (heb ei gyhoeddi)
  5. Dyddiadur Defi Lango (gol. Goronwy Evans)
  6. Lari Parc, Bwletin rhif 7, tud. 3; [1]
  7. (Flickr) [2]
  8. Olwen Evans ym Mwetin Llên Natur rhifyn 72; [3]
  9. Dyddiadur Owen T. Griffiths, Rhos y Ffordd, Llangristiolus yn Nhywyddiadur Llên Natur; [4]
  10. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-17. Cyrchwyd 2019-08-11.
  11. 11.0 11.1 Dyddiadur DO Jones, Ty Uchaf, Padog (gyda chaniatad papur bro Yr Odyn, a'r teulu)
  12.  gwawr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Mawrth 2021.
  13. William Meredith Morris, A glossary of the Demetian dialect of north Pembrokeshire (Tonypandy, 1910)