Y Byd
Cynllun i greu papur newydd dyddiol, cyntaf yn y Gymraeg oedd Y Byd, na welodd olau dydd. Roedd yna fwriad i ddechrau cyhoeddi ar 3 Mawrth, 2008.[3] Cafodd y cynllun i sefydlu papur dyddiol Cymraeg ei grybwyll yn 2001, ac ar ôl rhai amheuon[4] llwyddodd i gyrraedd ei nod o werthu £300 o gyfranddaliadau.[5] Ond fe ddatganodd Dyddiol Cyf ar 15 Chwefror, 2008, na fydden nhw'n ceisio sefydlu papur dyddiol bellach, ar ôl i'r llywodraeth ddatgan mai dim ond £200,000 y flwyddyn a fyddai ar gael fel nawdd, llai na draean o'r maint roedd y cynllun busnes wedi gobeithio ei gael.[6]
Math | Papur newydd arfaethedig |
---|---|
Fformat | Compact |
Perchennog | Cwmni Dyddiol Cyf.[1] |
Golygydd | Aled Price[1] |
Sefydlwyd | heb ddechrau cyhoeddi |
Iaith | Cymraeg |
Pencadlys | Machynlleth[2] |
Gwefan swyddogol | YByd.com |
Cost |
70c (Llun–Iau), £1.20 (Gwe)[3] |
- Am ein planed, gweler Y Ddaear.
Newyddiaduraeth
golyguRoedd Y Byd i fod yn cynnig newyddion a sylwebaeth ar faterion cyfoes, yn canolbwyntio ar Gymru yn bennaf, ond hefyd yn rhoi gwybodaeth a barn ar faterion rhyngwladol a Phrydeinig pwysig. Bwriadwyd i gadw archif o holl erthyglau'r papur ar ei wefan. Byddai'r papur wedi cyflogi staff o 24, tua hanner ohonynt yn newyddiadurwyr, ym mhrif swyddfa'r papur ym Machynlleth.[2]
Cefnogaeth
golyguRoedd nifer yn cefnogi amcan Y Byd fel hwb i'r Gymraeg. Fe roddodd llawer o enwogion Cymru eu cefnogaeth i'r papur, gan gynnwys Archesgob Cymru ac aelodau o bob plaid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Enwi golygydd Y Byd", BBC, 28 Tachwedd, 2006.
- ↑ 2.0 2.1 Y Byd: Sut fath o bapur?
- ↑ 3.0 3.1 Y Byd yn closio at ddiwrnod mawr. BBC (20 Mehefin, 2007).
- ↑ 'Amheuon' am bapur newydd Cymraeg. BBC (29 Mehefin, 2004).
- ↑ "Swyddi: Y Byd yn ei le?", BBC, 19 Mehefin, 2006.
- ↑ "Gollwng cynllun papur dyddiol", BBC, 15 Chwefror, 2008.