Ifan Morgan Jones

newyddiadurwr ac awdur Cymreig

Newyddiadurwr, darlithydd a nofelydd Cymraeg yw Ifan Morgan Jones (ganwyd Ebrill 1984) sy'n enedigol o Waunfawr, Gwynedd ond sydd bellach yn byw yng Nghroeslan ger Llandysul. Mae'n fab i'r awdur a darlledwr Rhodri Prys Jones (1948-1991) a Sylvia (née Morgan). Mae gan Ifan bedwar o blant, Aeron, Magw, Jano a Radi.

Ifan Morgan Jones
GanwydEbrill 1984 Edit this on Wikidata
Waunfawr Edit this on Wikidata
Man preswylCroes-lan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, newyddiadurwr, darlithydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amIgam Ogam Edit this on Wikidata

Enillodd ei nofel Igam Ogam Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008. Enillodd ei nofel Babel wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2020. Cyhoeddodd dair nofel arall, Yr Argraff Gyntaf yn 2010, Dadeni yn 2017 a Brodorion yn 2021.

Bu'n Ohebydd a Dirprwy Olygydd ar gylchgrawn Golwg o fis Mai 2006 hyd ddiwedd 2008, ac yn Olygydd gwefan Golwg360 rhwng Ionawr 2009 a Medi 2011.

O 2011 ymlaen bu'n arweinydd y cwrs newyddiaduraeth yn Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau Prifysgol Bangor. Cafodd ddoethuriaeth yn 2018 am ei astudiaeth o genedlaetholdeb a'r wasg Gymraeg yn ail hanner yr 19eg ganrif.

Yn 2017 lansiodd y wefan newyddion Nation.Cymru gyda'r nod o ehangu y darpariaeth ar gyfer newyddiaduraeth am Gymru gyfan yn yr iaith Saesneg. Yn 2023 penodwyd yn Uwch Olygydd gwasanaeth digidol Newyddion S4C.[1]

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Dr. Ifan Morgan Jones yn ymuno a thîm Newyddion S4C". S4C. Rhagfyr 6 2022. Cyrchwyd Ionawr 22 2023. Check date values in: |access-date=, |date= (help)


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.