Golwg ar Deyrnas Crist

Cerdd hir a ysgrifennwyd gan William Williams (Pantycelyn) yw "Golwg ar Deyrnas Crist - neu Grist yn bob Peth, ac ymhob Peth: sef, Caniad mewn dull o agoriad ar Col. iii. 11. 1 Cor. xv. 25"[1]. Dechreuwyd ei gyfansoddi tua'r flwyddyn 1753[2] ac fe'i cyhoeddwyd yn 1756[1]. Bu gryn newid (gan Williams) mewn ail argraffiad (1764). Bu hefyd argraffiadau diweddarach (ee 4ydd 1822).

Golwg ar Deyrnas Crist. William Williams (Pantycelyn). Wynebddalen Argraffiad 4 (1822)

Seryddiaeth a Bioleg golygu

 
Troednod (tud 40 argraffiad 1822) yn disgrifio gwybodaeth cyffredinol y pryd (argraffiad 1764) ar gomedau. Ymddangosodd gomed Halley yn 1758/59, 3 mlynedd ar ôl argraffiad gyntaf cerdd Pantycelyn.

Nid gwyddonydd oedd Williams[3] ond oherwydd cyfeiriadau eang at seryddiaeth a bioleg (yn arbennig yr hyn a ddatgelwyd gan y telesgop a'r microsgop cynnar) ei oes yn y gerdd, gellir ei ddefnyddio i ganfod diddordeb Pantycelyn yn y maes hwn. A thrwy hynny ymwybyddiaeth (rhai o leiaf) o Gymry Cymraeg ei oes o'r datblygiadau gwyddonol diweddaraf. Yn ôl bywgraffiad Gomer Roberts ohono[2], dylanwadwyd gwybodaeth Williams gan lyfrau'r Parch William Derham (1637-1735)[4], canon Windsor ac yn aelod o'r Gymdeithas Frenhinol. Trwy ei lyfrau[5][6] trosglwyddwyd gwybodaeth am ddarganfyddiadau'r Oleuedigaeth (o Copernicws i Newton a Van Leeuwenhoek) i offeiriaid a gweinidogion yr efengyl (a oedd yn darllen Saesneg) yr 18 ganrif. Diddorol yw sylwi bod Williams wedi cynnwys sylw at ymddangosiad 1758/9 o gomed Halley yn yr ail argraffiad (1764). (Roedd Halley wedi darogan y digwyddiad - ond heb fyw yn ddigon hir i'w gweld.) Mae'n amlwg i Williams dilyn y datblygiadau ar ôl marwolaeth a dylanwad uniongyrchol Derham.

Efallai fod y llyfr hwn yn gosod seiliau'r ymdrafod ymddangosiadol rhwng crefyddwyr a gwyddonwyr Cymraeg a Chymreig sydd wedi para hyd heddiw[7].

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Williams, William (1756). "Golwg ar Deyrnas Crist". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 20 Chwefror 2019.
  2. 2.0 2.1 Roberts, Gomer Morgan (1958). Y Per Ganiedydd [Pantycelyn] Cyfrol 2. Aberystwyth: Gwasg Aberystwyth. tt. 144–155.
  3. Hughes, Glyn Tegai (Gwanwyn 1992). "Pantycelyn ac iaith gwyddoniaeth". Y Gwyddonydd 29 (3): 91-93. https://journals.library.wales/view/1394134/1409404/16#?xywh=-1444%2C679%2C6162%2C3126.
  4. Dienw. (30 Mawrth 1935). "Dr. William Derham, F.R.S. (1657–1735)". Nature 135: 500–501. https://www.nature.com/articles/135500d0.
  5. Derham, William (1713). Physico-Theology: or, A demonstration of the being and attributes of God, from his works of creation.
  6. Derham, William (1715). Astro-Theology: or, A demonstration of the being and attributes of God from a survey of the heavens.
  7. Noel Davies a T. Hefin Jones (2017). Cristnogaeth a Gwyddoniaeth. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 9781786831262.