Bardd cynnar o Wynedd oedd Golyddan Fardd (bl. 664). Yn ôl traddodiad, lladdodd y brenin Cadwaladr Fendigaid. Ein prif ffynhonnell amdano yw'r traddodiadau a geir yn y casgliad Trioedd Ynys Prydain.

Golyddan Fardd
Ganwyd7 g Edit this on Wikidata
Gwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Traddodiadau

golygu

Cyfeirir ato mewn pedwar o Drioedd Ynys Prydain. Yn y triawd 'Tri Gwythwr Ynys Brydain a wnaethant y Tair Anfad Gyflafan' (gwythwr = 'dyn ffyrnig'), trawyd Golyddan yn ei ben gyda bwyall gan dorrwr coed o Aberffraw. Dyna fwrdwn y cyfeiriad mewn ail driawd, sef 'Tair Anfad Fwyallawd Ynys Prydain' hefyd.[1] Dyma gyfeiriadau sy'n cysylltu Golyddan gyda safle llys brenhinoedd Gwynedd yn Aberffraw, Môn.

Mae un o'r trioedd yn Llyfr Gwyn Rhydderch yn rhestru 'Tair Gwyth Balfawd Ynys Prydain' (Tri thrawiad niweidiol...'), a'r drydedd yw'r un a roddodd Golyddan Fardd i Gadwaladr Fendigaid, brenin Gwynedd. Bu farw Cadwaladr yn 664. Does dim cyfeiriad at ei ladd gan Golyddan yn y croniclau, sydd ddim yn nodi achos ei farwolaeth neu sy'n ei briodoli i'r Pla a fu ym Mhrydain yn y cyfnod hwnnw.[2] Ceir cyfeiriad gan y bardd Philyp Brydydd at ladd Gadwaladr gan Golyddan.[3]

Yn olaf, ceir triawd arall sy'n rhestru 'Tri Budr Hafren' ('Tri llygred Hafren'). Yr ail yw 'anrheg Golyddan gan Einion ap Bedd, brenin Cernyw'. Ni wyddys dim o gwbl am 'Einion ap Bedd' na'r hanes y tu ôl i'r cyfeiriad hwn.[4]

Cymysg yw'r traddodiadau am Golyddan felly, ond mae ei enw a'r ffaith ei fod yn cael ei gysylltu ag Aberffraw a Chadwaladr yn awgrymu ei fod yn un o feirdd llys cynnar Gwynedd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991), Trioedd 33W, 34.
  2. Trioedd Ynys Prydein, Triawd 53.
  3. Trioedd Ynys Prydein, tud. 292.
  4. Trioedd Ynys Prydein, Triawd 69.