Gor-gywiro
Mae gor-gywiro (Saesneg/Ffrangeg: Hypercorrection) yn derm mewn sosioieithyddiaeth, sef y defnydd o iaith sy'n deillio o or-bwysleisio rheolau tybiedig o safon iaith. Yn gyffredinol, mae siaradwr neu awdur sy'n cynhyrchu gor-gywiriadau yn credu bod y ffurf neu'r ymadrodd maen nhw'n ei ddefnyddio yn fwy 'cywir', 'safonol', neu fel arall 'yn well'. Yn aml gyda'r awydd i ymddangos yn ffurfiol neu wedi'i addysgu. [1][2]
Mae gor-gywiro ieithyddol yn digwydd pan fydd rheol ramadegol go iawn neu ddychmygol yn cael ei defnyddio mewn cyd-destun amhriodol, fel bod ymgais i fod yn 'gywir' weithiau'n arwain at ganlyniad anghywir neu broblemau eraill. Nid yw'n digwydd pan fydd siaradwr yn dilyn 'synnwyr siarad naturiol', yn ôl yr arbenigwyr Otto Jespersen a Robert J. Menner. [3]
Gellir dod o hyd i or-gywiriad ymhlith siaradwyr o fathau iaith sydd â statws is sy'n ceisio cynhyrchu ffurfiau sy'n gysylltiedig â mathau uchel eu parch, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd lle na fyddai siaradwyr y mathau hynny. Mae rhai sylwebyddion yn galw hyn yn 'hyperurbanism'.[4]
Gall gor-gywiro ddigwydd mewn llawer o ieithoedd a ble mae nifer o ieithoedd neu fathau o ieithoedd mewn cysylltiad.
Enghraifftau o or-gywiro
golyguEnghraifft o or-gywiriad cyffredin yn seiliedig ar geisio ymdopi â rheolau iaith dramor yw'r defnydd o 'octopi' ar gyfer y lluosog o 'octopus' yn Saesneg; mae hyn yn seiliedig ar ddrysu gramadeg Lladin a Groeg.[5]
Nid oes gan Saesneg normau codio corff awdurdodol nac academi iaith ar gyfer defnydd safonol, yn wahanol i rai ieithoedd eraill. Fodd bynnag, o fewn grwpiau o ddefnyddwyr Saesneg, ystyrir bod rhai defnyddiau yn glynu'n ormodol at reolau ffurfiol. Weithiau gelwir siarad neu ysgrifennu o'r fath yn hyperurbanism, a ddiffinnir gan Kingsley Amis fel 'awydd i fod yn fwy posh na posh'. [angen ffynhonnell]
Mae rhai acenion Saesneg, fel Cockney, yn gollwng yr 'h' cychwynnol o eiriau; ee '_ave' yn lle 'have'. Gor-gywiriad sy'n gysylltiedig â hyn yw ychwanegu 'h' cychwynnol at air na fyddai fel arfer yn cael un. Dychanwyd y fath yma o or-gywiro yn y gyfres deledu pypedau Thunderbirds wrth i'r cymeriad Parker yn dweud pethau fel: 'We'll 'ave the haristocrats 'ere soon'. [6]
Mae'r rhai sy'n cael eu gweld i fod yn or-gywiro iaith bobl eraill weithiau'n cael eu cyhuddo o fod yn 'Heddlu Iaith', yn arbennig yng nghyd-destun yr iaith Ffrangeg yn Canada. Mae dadleuon ffyrnig yn aml yn codi, fel gyda'r achos o dy fwyta Eidalaidd ym Montreal yn 2013. Mynnodd adran y llywodraeth bod geiriau fel yr un am stêc cig - 'steak frites' yn dorri gyfraith safon iaith Quebec a bod y gair 'biftek' sy'n gywir - y ddau fersiwn yn fenthyciadau i'r Ffrangeg. [7] [8]
Gweler hefyd
golygu- Ieithyddiaeth disgrifiadol - disgrifio’n fanwl gywir sut mae iaith yn cael ei defnyddio
- Cywair Iaith - amrywiaethau yr un iaith yn ôl y cyd-destunau.
- Newid cod - defnyddio dwy iaith gyda'i gilydd yn yr un sgwrs
- Sosiolect - yn steil arbennig o siarad ac/neu ysgrifennu gan ddosbarth, proffesiwn neu grŵp penodol
- Purdeb ieithyddol - ymdrechion i warchod iaith yn erbyn dylanwad tramor a ystyrir yn 'amhur'
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Wilson, Kenneth G. (1993). The Columbia Guide to Standard American English. Columbia University Press.
- ↑ Labov, William (1991). Sociolinguistic patterns. Conduct and communication series. Philadelphia: University of Philadelphia press. tudalen 126. ISBN 978-0-8122-1052-1.
- ↑ Menner, Robert J. (1937). "Hypercorrect forms in American English". American Speech. 12 (3): 167–78.
- ↑ Wordmaster: Hypercorrection Is Not Simply Being Fussy or a Nitpicker or a Pedant". VOA: Learning English. 23 July 2007. Archived from the original on 15 October 2012. Retrieved 28 January 2024.
- ↑ Stamper, Kory. Ask the editor: octopus. Merriam-Webster. Retrieved 29 January 2024 – via Daily Motion.
- ↑ Wordmaster: Hypercorrection Is Not Simply Being Fussy or a Nitpicker or a Pedant". VOA: Learning English. 23 July 2007. Archived from the original on 15 October 2012. Retrieved 28 January 2024
- ↑ https://www.theguardian.com/world/2013/mar/01/quebec-language-police-ban-pasta
- ↑ https://acutrans.com/what-is-the-language-police-in-canada