Ieithyddiaeth disgrifiadol

Mae Ieithyddiaeth/gramadeg disgrifiadol (Saeseng: linguistic/gramatical descriptivism) yn anelu at ddisgrifio iaith fel mae yn cael ei defnyddio.

Nid yw’r dull yn labelu defnydd penodol o iaith yn ‘gywir’ neu’n ‘anghywir’.[1] [2][3]

Nodweddion ieithyddiaeth ddisgrifiadol

golygu

Mae ieithyddiaeth ddisgrifiadol yn seiliedig ar edrych ar ddefnydd iaith y byd go iawn, heb wneud unrhyw farn ynghylch a yw defnydd penodol yn 'gywir' neu beidio. Gall helpu i ddeall sut mae iaith yn newid dros amser. Trwy astudio sut mae pobl yn defnyddio iaith mewn gwirionedd, gall ieithyddion disgrifiadol nodi'r ffactorau cymdeithasol a phersonol sy'n dylanwadu ar newid iaith.

Gall ieithyddiaeth ddisgrifiadol helpu i werthfawrogi amrywiaeth iaith. Trwy astudio sut mae pobl yn defnyddio iaith mewn gwahanol ddiwylliannau a chymunedau, ac i ddeall y gwahanol ffyrdd y gellir defnyddio iaith.

Ar y llaw arall, mae’r dull Ieithyddiaeth ragnodol (Saesneg: linguistic/gramatical prescriptivism, purdeb ieithyddol, hylendid ieithyddol) yn cynnig ffurfiau safonol i’w defnyddio gan geisio gosod rheolau sy'n ymwneud â defnydd "cywir" neu "anghywir", neu sut y "dylid" ei defnyddio. [4]

Gall presgripsiwn ieithyddol deillio o’r hyn mae sector arbennig o gymdeithas yn ei weld yn ffurf gywir neu orau ac yn anelu at ei hyrwyddo fel ffurf o iaith neu safon i’r cyhoedd yn gyffredinol. [5][6]

Mae'r dulliau disgrifiadol a rhagnodol yn egwyddorion sylfaenol astudiaethau ieithyddol.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. https://dictionary.cambridge.org/dictionary/english/descriptivism
  2. Cyflwyniad i ieithyddiaeth, Sarah Cooper a Laura Arman (goln.) 2020, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol,
  3. https://cy.eferrit.com/gramadeg-ddisgrifiadol/
  4. Verbal Hygiene (The Politics of Language). 1995. Awdur Deborah Cameron‎. Routledge. ISBN-13 :‎ 978-0415103558
  5. https://cy.eferrit.com/gramadeg-ddisgrifiadol/
  6. Verbal Hygiene (The Politics of Language). 1995. Awdur Deborah Cameron‎. Routledge. ISBN-13 :‎ 978-0415103558