Gorchymyn gweithredol
Dogfen a gyhoeddir gan Arlywydd yr Unol Daleithiau i weinyddu o fewn grym yr adran weithredol yw gorchymyn gweithredol (Saesneg: executive order). Daw'r awdurdod arlywyddol i gyhoeddi gorchmynion gweithredol o Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau a deddfau'r Gyngres. Y ddau fodd arall i'r arlywydd weinyddu yw'r datganiad arlywyddol a'r memorandwm arlywyddol.[1]
Gorchmynion gweithredol o nod
golygu- Ulysses S. Grant
- 9 (17 Ionawr 1873): atal camddefnyddio grym gan unigolyn sy'n dal swyddogaethau taleithiol a chenedlaethol ar yr un pryd
- Calvin Coolidge
- 4439 (8 Mai 1926): addasu Gorchymyn Gweithredol 9 er gorfodi'r Gwaharddiad drwy ganiatáu unigolyn i wasanaethu fel swyddog taleithiol a swyddog ffederal ar yr un pryd
- Franklin D. Roosevelt
- 6012 (3 Ebrill 1933): gwahardd perchenogaeth breifat ar aur, ac eithrio meintiau bychain ar ffurf barrau, darnau arian, a thystysgrifau
- 7034 (6 Mai 1935): creu'r Works Progress Administration (WPA) fel rhan o'r Fargen Newydd
- 8802 (25 Mehefin 1941): diddymu gwahaniaethu ar sail hil yn y diwydiant amddiffyn
- 8807 (28 Mehefin 1941): sefydlu'r OSRD i ymchwilio a datblygu technoleg ryfel. Yn hwyrach, datblygodd y bom atomig dan Raglen Manhattan.
- 9066 (19 Chwefror 1942): caethiwo'r Americanwyr Japaneaidd
- Harry S. Truman
- 9981 (26 Gorffennaf 1948): diddymu arwahanu hiliol yn Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau
- 10340 (8 Ebrill 1953): gwladoli'r gweithiau dur dan reolaeth yr Ysgrifennydd Masnach
- Dwight D. Eisenhower
- 10730: rhoi Gwarchodlu Cenedlaethol Arkansas dan reolaeth y llywodraeth ffederal, ac anfon y fyddin i sicrháu mynediad gan naw plentyn du i Ysgol Uwchradd Little Rock
- John F. Kennedy
- 10924 (1 Mawrth 1961): sefydlu'r Corfflu Heddwch
- Lyndon B. Johnson
- 11130: sefydlu Comisiwn Warren i ymchwilio i lofruddiaeth yr Arlywydd Kennedy
- 11246: gwahardd y llywodraeth ffederal rhag gwahaniaethu ar sail hil, crefydd, rhyw, neu dras genedlaethol wrth hurio gweithwyr
- Gerald Ford
- 11905 (19 Chwefror 1976): gwahardd llywodraeth yr Unol Daleithiau rhag bradlofruddio mewn gwledydd eraill
- Jimmy Carter
- 12148 (20 Gorffennaf 1979): sefydlu FEMA, yr asiantaeth rheoli argyfyngau
- Donald Trump
- 13769 (27 Ionawr 2017): gohirio'r Rhaglen Derbyn Ffoaduriaid am 120 diwrnod, atal pobl o Iemen, Irac, Iran, Libia, Somalia, a Swdan rhag mynediad i'r Unol Daleithiau am 90 diwrnod, ac atal pobl o Syria rhag mynediad am gyfnod amhenodol
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) executive order (United States government). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Ionawr 2017.