Cynllun eang o raglenni mewnwladol, prosiectau gweithiau cyhoeddus, diwygiadau, a rheoliadau a weithredwyd gan weinyddiaeth yr Arlywydd Franklin D. Roosevelt yn Unol Daleithiau America yn y cyfnod 1933–39 oedd y Fargen Newydd (Saesneg: New Deal). Ei nod oedd i ddarparu cymorth ariannol, diwygio nifer o ddiwydiannau a meysydd cyhoeddus, ac adfer economi'r Unol Daleithiau yn sgil y Dirwasgiad Mawr (1929–39). Ymhlith y prif raglenni, cyfreithiau, ac asiantaethau ffederal oedd y Corfflu Cadwraeth Sifil (CCC), y Weinyddiaeth Weithiau Sifil (CWA), y Weinyddiaeth Brosiectau Gwaith (WPA), y Weinyddiaeth Ddiogelwch i Ffermwyr (FSA), y Ddeddf Adfer Diwydiant Genedlaethol (NIRA), y Ddeddf Unioni Amaethyddol (AAA), a'r Weinyddiaeth Ddiogelwch Cymdeithasol (SSA)—yn anffurfiol, rhoddwyd yr enw "asiantaethau'r wyddor" (alphabet agencies) ar y cyrff a sefydlwyd dan gynllyniau'r Fargen Newydd.[1] Rhoddwyd cymorth a chyfleoedd i ffermwyr, y di-waith, ieuenctid, a'r henoed, a chwtogwyd ar weithgareddau'r banciau, yn groes i athroniaeth laissez-faire a fu'n gyrru polisi economaidd yr Unol Daleithiau ers troad y ganrif. Roedd y Fargen Newydd yn cynnwys deddfau a basiwyd gan y Gyngres yn ogystal â gorchmynion gweithredol a arwyddwyd gan yr Arlywydd Roosevelt. Ehangodd ymyrraeth y llywodraeth ym mywyd economaidd yr Unol Daleithiau ac effeithiodd ar ddiwydiant, amaeth, byd arian a bancio, isadeiledd, coedwigaeth, llafur, tai, ac ynni dŵr.

Y Fargen Newydd
Yr Arlywydd Franklin D. Roosevelt yn arwyddo'r ddeddf i sefydlu Awdurdod Dyffryn Tennessee (TVA), un o asiantaethau ffederal y Fargen Newydd (18 Mai 1933).
Enghraifft o'r canlynolpolisi cyhoeddus Edit this on Wikidata
MathPolisi economaidd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd3 Mawrth 1933 Edit this on Wikidata
Daeth i benc. 1939 Edit this on Wikidata
LleoliadUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Yn cynnwysEmergency Relief Appropriation Act of 1935, Resettlement Administration, Works Progress Administration, Works Progress Administration works at Arrow Rock State Historic Site, Greenbelt, Farm Security Administration, Federal Works Agency, United States Housing Authority, Greenhills, Greendale, Greenbelt town, Emergency Conservation Work, Y Corfflu Cadwraeth Sifil, Civil Works Administration, Federal Emergency Relief Administration, Federal Emergency Relief Act Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cychwynnodd y Dirwasgiad Mawr yn yr Unol Daleithiau yn sgil cwymp Wall Street yn nhymor yr hydref 1929. Wrth dderbyn enwebiad y Blaid Ddemocrataidd ar gyfer etholiad arlywyddol 1932, addawodd Roosevelt y byddai'n cynnig "bargen newydd" i'r etholwyr. Bu Roosevelt yn drech na'r Arlywydd Herbert Hoover yn yr etholiad, ac yn ystod "Can Niwrnod Cyntaf" ei arlywyddiaeth dechreuodd pasio deddfwriaeth i roi'r Fargen Newydd ar waith. Yng nghyfnod y Fargen Newydd Gyntaf (1933–34), canolbwyntiodd ar adnewyddu busnesau a chymunedau amaethyddol. Rhoddwyd i'r Weinyddiaeth Adfer Genedlaethol (NRA) awdurdod i newid rheolau diwydiannol parthed arferion masnach, cyflogau, oriau gwaith, llafur plant, a bargeinio ar y cyd. Pasiwyd rheoliadau ariannol i geisio atal cwymp marchnad stoc arall a methiannau banciau, fel digwyddodd ym 1929. Cafodd arian cadw mewn banciau'r Grondrefn Ffederal ei warantu gan yswiriant gwladol o'r Gorfforaeth Yswiriant Adneuon Ffederal (FDIC), a ffurfiwyd y Comisiwn Gwarantau a Chyfnewid (SEC) i ddiogelu buddsoddwyr rhag twyll yn y farchnad stoc. Ceisiodd y Weinyddiaeth Unioni Amaethyddol (AAA) godi prisoedd drwy reoli cynhyrchiant cnydau a darparu cymorthdaliadau i ffermwyr. Sefydlwyd asiantaethau megis y CCC ac yn ddiweddarach yr WPA i ddarparu swyddi dros dro a gwaith gwirfoddol, mewn prosiectau adeiladu a choedwigaeth. Sefydlwyd Awdurdod Dyffryn Tennessee (TVA) i ddarparu trydan ar draws Tennessee a rhannau o chwe thalaith arall ac i atal llifogydd yn yr ardaloedd hynny.

Yng nghyfnod yr Ail Fargen Newydd (1935–36 neu 1938) newidiodd pwyslais y rhaglenni ffederal i gynorthwyo'r llafurlu a chymunedau trefol. Cryfhawyd awdurdod y llywodraeth ac undebau llafur mewn cysylltiadau diwydiannol gan Ddeddf Wagner (1935) a sefydlwyd y Bwrdd Cysylltiadau Llafur Cenedlaethol (NLRB). Pasiwyd rhagor o ddeddfwriaeth i ail-gyllido morgeisiau ac i warantu benthyciadau banciau. Ym 1935 ac ym 1939 pasiwyd deddfau diogelwch cymdeithasol i ddarparu budd-daliadau i'r henoed a gweddwon, iawndaliadau i bobl di-waith, ac yswiriant i'r anabl. Ym 1938 cyfyngwyd ar oriau gwaith a chyflwynwyd isafswm cyflog mewn ambell ddiwydiant.

Gwrthwynebwyd y Fargen Newydd gan ddynion busnes a gwleidyddion a oedd yn ffafrio'r hen drefn laissez-faire ac yn ystyried rhaglenni Roosevelt yn sosialaeth. Dyfarnwyd rhai o ddeddfau'r Fargen Newydd yn anghyfansoddiadol gan Oruchaf Lys yr Unol Daleithiau ar sail y ddadl nad oedd gan y llywodraeth ffederal yr awdurdod i reoleiddio diwydiannau nac i ddiwygio bywyd cymdeithasol ac economaidd y wlad. Cafodd agweddau eraill y Fargen Newydd eu dyfarnu yn gyfansoddiadol, ac o fewn amser cydnabuwyd y diwygiadau hyn ar draws yr Unol Daleithiau a chan y ddwy brif blaid wleidyddol.[2] Nodai y Fargen Newydd dro yn hanes polisi economaidd yr Unol Daleithiau, gan wyro oddi ar yr athrawiaeth laissez-faire a'i ffydd yn "llaw anweledig" y farchnad tuag at ymyrraeth gan y llywodraeth ffederal yn yr economi gyda'r nod o unioni diddordebau. Cafwyd adliniad gwleidyddol o ganlyniad i'r Fargen Newydd, gan roi i'r Blaid Ddemocrataidd rym yn y Tŷ Gwyn am ugain mlynedd a denu pleidleisiau rhyddfrydwyr, y De, yr undebau llafur, a sawl grŵp ethnig. Olynwyd rhaglenni Roosevelt gan y Fargen Deg yn ystod arlywyddiaeth Harry S. Truman (1945–53).

Cyfeiriadau

golygu
  1. Chris Cook, Macmillan Dictionary of Historical Terms, ail argraffiad (Llundain: Macmillan, 1990), t. 8.
  2. (Saesneg) New Deal. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Tachwedd 2020.