Gorfetysen
Deil-lysieuyn yw gorfetysen[1] neu fetysen arian[1] sydd yn un o bedwar cyltifar y fetysen (Beta vulgaris), yn nheulu'r amaranthau. Yn wahanol i'r tri chyltifar arall—betysen goch, betysen y maes, a betysen siwgr—nid oes gan yr orfetysen wreiddiau mawr. Planhigyn eilflwydd ydyw, ond fel arfer fe'i tyfir yn flynyddol; wrth flodeuo yn yr ail flwyddyn, mae'r planhigyn yn troi'n hynod o chwerw.[2]
Gorfetysen goch. | |
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Math | planhigyn llysieuaidd, planhigyn eilflwydd, planhigyn defnyddiol |
Safle tacson | cultivar group |
Rhiant dacson | Beta vulgaris vulgaris |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tyfir yr orfetysen am ei ddail a deilgoesau lliwgar a maethlon, llawn fitaminau A ac C, ac iddynt flas chwerw. Mae gorfetysen ffres yn hynod o ddarfodus, felly fe'i tyfir fel rheol yn y cartref neu ar gyfer y farchnad leol. Mae'n hawdd i'w meithrin yn yr ardd lysiau, ac yn cynhyrchu dail newydd trwy gydol y tymor tyfu. Bwyteir dail bychain, heb eu coginio, mewn salad. Wrth goginio mae chwerwder y dail yn lleihau, ac yn aml câi dail mawr eu ffrio'n ysgafn neu eu dodi mewn cawl.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, "chard".
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Chard. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Awst 2022.