Gorllewin Cymru
Un o rhanbarthau answyddogol Cymru a leolir yn ne-orllewin y wlad yw Gorllewin Cymru, sy'n ffinio â Chanolbarth Cymru i'r gogledd, De Cymru i'r dwyrain, Môr Hafren i'r de a Môr Iwerddon i'r gorllewin. Mae'n cynnwys Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Phenrhyn Gŵyr, ac afonydd Daugleddau, Tywi a Thawe.

- Mae De-orllewin Cymru yn ailgyfeirio i'r erthygl hon.
Diffinio'r rhanbarth Golygu
Yn hanesyddol, mae Gorllewin Cymru yn cyfateb yn fras i diriogaeth Teyrnas Deheubarth neu'r hen sir Dyfed, ond heb Ceredigion. Heddiw, mae'n cynnwys siroedd Penfro, Caerfyrddin ac Abertawe.
Ond mae "Gorllewin Cymru" yn rhanbarth annelwig iawn mewn gwirionedd gyda'i diffiniad yn amrywio. Gellid ei gymryd yn llythrennol i olygu'r cyfan o orllewin Cymru, o Ynys Môn i Benfro, a dyna'r rhanbarth a geir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Undeb Ewropeaidd yn ei Strategaeth Cynllun Un ar gyfer "Gorllewin Cymru a'r Cymoedd", er enghraifft. Yn nhermau daearyddol pur, yr hyn a olygir gan "Gorllewin Cymru" gan amlaf yw de-orllewin Cymru yn hytrach na'r gorllewin go iawn.
Unedau gweinyddol, hen a newydd Golygu
Siroedd presennol Golygu
Creuwyd y siroedd presennol fel awdurdodau unedol yn 1996.
Siroedd cadwedig Golygu
Dyma'r siroedd a greuwyd yn 1974. Ers 1996 maent yn 'siroedd cadwedig' yn unig.
Siroedd cyn 1974 Golygu
Creuwyd y siroedd hyn dan y drefn Seisnig rhwng 1284 a 1536. Cawsont eu dileu neu eu hail-lunio yn 1974.
- Sir Benfro (yn cyfateb, gyda mân newidiadau, i'r sir bresennol o'r un enw)
- Sir Gaerfyrddin (yn cyfateb, gyda mân newidiadau, i'r sir bresennol o'r un enw)
- Sir Forgannwg (rhan orllewinol yr hen sir yn unig, er bod tuedd i gynnwys Sir Forgannwg gyfan yn 'Ne Cymru' yn hytrach na'r Gorllewin)
Gweler hefyd Golygu
Rhanbarthau Cymru | |
---|---|
Canolbarth | De | Gogledd | Gorllewin |