Gorllewin Gwlad yr Haf a Taunton

ardal an-fetropolitan yng Ngwlad yr Haf

Ardal an-fetropolitan yn sir seremonïol Gwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, yw Gorllewin Gwlad yr Haf a Taunton (Saesneg: Somerset West and Taunton).

Gorllewin Gwlad yr Haf a Taunton
Mathardal an-fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGwlad yr Haf
Poblogaeth153,866 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 2019 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwlad yr Haf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd1,187.7752 km² Edit this on Wikidata
Cod SYGE07000246 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Somerset West and Taunton Council Edit this on Wikidata

Mae gan yr ardal arwynebedd o 1,188 km², gyda 155,115 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ag Ardal Sedgemoor i'r dwyrain a De Gwlad yr Haf i'r de-ddwyrain, yn ogystal â sir Dyfnaint i'r gorllewin a Môr Hafren i'r gogledd.

Gorllewin Gwlad yr Haf a Taunton yng Ngwlad yr Haf

Ffurfiwyd yr ardal ar 1 Ebrill 2019 pan unodd y ddwy ardal an-fetropolitan Gorllewin Gwlad yr Haf (Saesneg: West Somerset) a Taunton Deane. (Ffurfiwd yr ardaloedd hynny dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.)

Rhennir yr ardal yn 93 o blwyfi sifil, gydag un ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Taunton. Mae ei phencadlys yn nhref Shepton Mallet. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Dulverton, Minehead, Watchet, Wellington a Wiveliscombe.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 3 Tachwedd 2020