Gorsaf reilffordd Brampton
Mae Gorsaf reilffordd Brampton yn orsaf ar linell Dyffryn Tyne sydd yn cysylltu Newcastle, Hexham a Chaerliwelydd. Mae’r orsaf yn gwasanaethu’r dref Brampton.
Math | gorsaf reilffordd, gorsaf drwodd, gorsaf ar lefel y ddaear |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Caerliwelydd |
Agoriad swyddogol | 1836 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Brampton |
Sir | Cumbria (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 54.9322°N 2.7039°W |
Cod OS | NY550599 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 2 |
Côd yr orsaf | BMP |
Rheolir gan | Arriva Rail North, Northern Trains |
Perchnogaeth | Network Rail |
Hanes
golyguFfurfiwyd Cwmni Rheilffordd Newcastle a Chaerliwelydd ym 1829[1]. Agorwyd yr orsaf ym mis Gorffennaf 1836. yn wreiddiol, roedd cangen rhwng yr orsaf a’r dref, lle oedd Gorsaf Reilffordd Brampton Town. Defnyddiwyd ceffylau ar y gangen. Daeth y rheilffordd, a’r gangen, yn rhan o Reilffordd y Gogledd Ddwyrain ym 1912. Caewyd y gangen ym mis hydref 1923.[2]
Roedd cangen arall i gario glo o glofeydd yr Arglwydd Caerliwelydd yn ymyl Tindale, seiliedig ar dramffordd gynharach gyda chledrau pren. Caewyd y rheilffordd hon ym mis Mawrth 1953.[3]
Gorsaf-meistr cyntaf yr orsaf oedd Thomas Edmondson, dyfeisydd y tocyn cardfwrdd Edmondson a pheiriannau cysylltiedig â’r tocynnau.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ James, Leslie (Tachwedd 1983). A Chronology of the Construction of Britain's Railways 1778-1855. Shepperton: Ian Allan. t. 22. ISBN 0-7110-1277-6. BE/1183.
- ↑ Gwefan cumbria-railways.co.uk
- ↑ Gwefan cumbria-railways.co.uk
- ↑ Gwefan manlocosoc.co.uk