Thomas Edmondson
Dyfeisydd o Loegr oedd Thomas Edmondson (30 Mehefin 1792 – 22 Mehefin 1851). Fe'i ganwyd yng Nghaerhirfryn). Roedd o’n Grynwr a gweithiodd dros gwmni Waring a Gillow. Dechreuodd fusnes yn gwneud dodrefn yng Caerliwelydd efo ffrindiau, ond methodd y cwmni. Symudodd i weithio yng Ngorsaf reilffordd Milton, y daeth yn Ngorsaf reilffordd Brampton, ar Reilffordd Newcastle a Chaerliwelydd, lle dyfeisiodd y Tocyn rheilffordd Edmondson, tocyn bach cardfwrdd gyda rhif a dyddiad arno. Crëodd argraffydd i ychwanegu’r dyddiad[1]
Thomas Edmondson | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mehefin 1792 Caerhirfryn |
Bu farw | 22 Mehefin 1851 Manceinion |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dyfeisiwr, gorsaf-feistr |
Pan agorodd y Rheilffordd Manceinion a Leeds yn 1839, daeth yn brif clerc bwcio’r rheilffordd ym Manceinion. Wedyn dyfeisiodd beiriant arall i argraffu cyfres o docynnau gyda rhifau canlynol, a daeth yn gyfoethog o’r hawlfraint; defnyddiwyd ei docynnau gan nifer helaeth o gwmnïau.[1] Gwnaethpwyd a gwerthwyd y tocynnau gan ei deulu hyd at 1988.[2]
Defnyddia’r Rheilffordd De Dyffryn Tyne ei docynnau, ac mae ganddynt locomotif gyda’r enw ‘Thomas Edmondson’.