Gorsaf reilffordd Casnewydd
Gorsaf reilffordd Casnewydd (Saesneg: Newport) yw'r orsaf reilffordd trydydd brysuraf yng Nghymru (ar ôl Caerdydd Canolog a Heol y Frenhines Caerdydd), sydd wedi'i lleoli yng nghanol dinas Casnewydd. Y perchnogion yw Network Rail ac mae'n cael ei weithredu gan Trafnidiaeth Cymru, er bod First Great Western a CrossCountry hefyd yn darparu gwasanaethau. Mae'r brif fynedfa'r orsaf wedi ei lleoli ar Queensway. Cafodd yr orsaf ei hagor yn wreiddiol yn 1850 gan Gwmni Rheilffordd De Cymru. Prif Beiriannydd y cwmni oedd Isambard Kingdom Brunel, ac roedd lled y trac saith troedfedd, yr un y defnyddiwyd gan Brunel ar Reilffordd Great Western[1]. Newidiwyd lled y traciau i'r lled safonol ym Mai 1872, yr un maint a'r rheilffyrdd eraill yn yr ardal.[2] a chafodd ei ehangu'n sylweddol yn 1928 ac eto yn 2010.
![]() | |
Math | gorsaf reilffordd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Casnewydd ![]() |
Agoriad swyddogol | 1850 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Casnewydd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5896°N 2.999°W ![]() |
Cod OS | ST309883 ![]() |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 4 ![]() |
Côd yr orsaf | NWP ![]() |
Rheolir gan | KeolisAmey Cymru ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Network Rail ![]() |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Mae'r Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn cynnal presenoldeb yng Nghasnewydd.