Gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog
Gorsaf reilffordd fwyaf Caerdydd a Chymru ydy Caerdydd Canolog. Mae'n un o brif orsafoedd y rhwydwaith reilffordd yng ngwledydd Prydain, a'r degfed gorsaf prysuraf y tu allan i Lundain. Dyma prif gyrchfan rhwydwaith trenau lein y Cymoedd a'r Fro. Mae trenau'n dod tuag ati o'r gogledd (Merthyr Tudful), o'r de (Y Barri), ac o'r dwyrain (Casnewydd, Bryste, Birmingham, Llundain a Newcastle upon Tyne), ac o'r gorllewin (Pen-y-bont ar Ogwr, Abergwaun), a hyd yn oed o gyfeiriadau rhyngddynt hwy. Ceir trenau hefyd i Faes Awyr Caerdydd.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Caerdydd |
Agoriad swyddogol | 1850 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | canol dinas Caerdydd, Tre-Biwt |
Sir | Tre-Biwt |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 9 metr |
Cyfesurynnau | 51.475665°N 3.179192°W |
Cod OS | ST181758 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 8 |
Côd yr orsaf | CDF |
Rheolir gan | Trafnidiaeth Cymru |
Arddull pensaernïol | Art Deco |
Perchnogaeth | Network Rail |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Gweithredir yr orsaf gan gwmni Trafnidiaeth Cymru. Adnabyddwyd yr orsaf fel Cardiff General hyd at 7 Mai 1973.[1] Fe'i lleolir ger Stadiwm y Mileniwm yn Sgwâr Canolog yng nghanol y ddinas, ac mae'n un o ddwy brif orsaf y ddinas honno; y llall yw gorsaf Heol y Frenhines) sy'n gwasanaethu trenau lleol yn unig. Ceir hefyd 20 gorsaf maestrefol o fewn ardal y ddinas.
Mae'r holl orsaf, gan gynnwys y Tŵr Dŵr ger platfform 0, wedi ei restru fel adeilad Gradd II.
Hanes
golyguAgorwyd yr orsaf gan South Wales Railway yn 1850. Ail-adeiladwyd hi gan y cwmni a'i olynodd, y Great Western Railway, yn 1932 ac mae hyn wedi'i gerfio ar flaen yr adeilad. Cyfunwyd yr orsaf faestrefol 1893 Cardiff Riverside gyda'r brif orsaf yn 1940, ond ni ddefnyddwyd y platfform hwnnw ar gyfer teithwyr ers yr 1960au.[2]
Lleoliad yr orsaf
golyguMae dwy fynedfa i'r orsaf, un ar Sgwâr Canolog, o Wood Street, gyferbyn a Gorsaf Bysiau Caerdydd Canolog lle ceir dwy reng o dacsis. Hon yw'r fynedfa i brif ran yr orsaf lle mae'r cyfleusterau'n cynnwys:
- Peiriannau a desgiau tocynnau
- Peiriannau arian
- Desg gwybodaeth
- Teleffonau
- Toiledau
- W. H. Smith
- Siopau brechdanau a choffi
- Siop Marks and Spencer Simply Food
Mae'r fynedfa arall yng nghefn yr adeilad, yn Heol Eglwys Fair (Tresillian Way), ble mae maes parcio'r orsaf hefyd i'w gael. Mae cledrau'r rheilfford uwchben y tanlwybr, sy'n rhedeg o un fynedfa i'r llall. Ceir grisiau a lifftiau ar y platfform. Mae angen tocyn dilys o bob pen y tanlwybr er mwyn cael mynd at y platfform.
Mae saith platfform ar dair ynys, 1/2, 3/4 a 6/7 (nid oes Platfform 5, roedd bae gynt yn y pen gorllewin rhwng platfform 3 a 4), gyda phlatfform ochr, mae grisiau ar wahân yn arwain at Blatfform 0, o ben gorllewinol neuadd y brif fynedfa.
Rhennir platforms 3 a 4 yn 'a' a 'b' er mwyn dal dau trenau lleol neu un tren pellter-hir. Yn wahanol i Birmingham, nid oes gan y rhain signalau ar wahân, ac nid yw'n anarferol i'r platfform eraill gael eu defnyddio ar gyfer mwy na un tren lleol ar yr un amser.
Cyhoeddiadau
golyguMae mwyafrif y cyhoeddiadau llafar yn yr orsaf yn cael eu gwneud yn Gymraeg ac yn Saesneg:
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Cardiff Timeline". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-29. Cyrchwyd 2008-04-29.
- ↑ Barrie, D. S. M. (1980). A Regional History of the Railways of Great Britain, vol. 12: South Wales. David & Charles ISBN 0-7153-7970-4
Oriel
golygu-
Y fynedfa newydd