KeolisAmey Cymru
Roedd Gweithrediadau KeolisAmey Cymru yn masnachu fel Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru[1][2], a weithredodd masnachfraint Cymru a'r Gororau rhwng Hydref 2018 a Chwefror 2021.
Gorolwg | |
---|---|
Masnachfraint |
|
Prif region(oedd) | Cymru |
region(oedd) arall | |
Rhagflaenydd | Trenau Arriva Cymru |
Olynydd | Trafnidiaeth Cymru Trenau |
Cwmni rhiant | |
Gwefan | trctrenau.cymru, www.keolisamey.cymru/cy/ |
Technical | |
Lled | 1,435 mm (4 ft 8 1⁄2 in) |
Ar 22 Hydref 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am gamu mewn i redeg y gwasanaethau yn uniongyrchol drwy is-gwmni. Roedd hyn yn dilyn y pandemig coronafeirws pan cwympodd y nifer o deithwyr yn sylweddol. Cychwynodd y drefn newydd o 7 Chwefror 2021 gan drosglwyddo y gweithrediadau i gwmni Trafnidiaeth Cymru Trenau.[3] Bydd cwmni Amey Keolis Infrastructure Cyf yn parhau i ofalu am yr isadeiledd ar linellau craidd y cymoedd a bydd Keolis Amey yn parhau i ddarparu eu arbennigedd drwy bartneriaeth.[4]
Hanes
golyguYm mis Hydref 2016 cyrhaeddodd tri chwmni y rhestr fer ar gyfer masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau, sef Abellio, y gweithredwr cyfredol Arriva, a menter ar y cyd rhwng Keolis/Amey a Chorfforaeth MTR.[5][6]
Ym mis Hydref 2017, gadawodd Arriva y broses, wedi ei ddilyn ym mis Chwefror 2018 gan Abellio yn dilyn cwymp eu partner Carillion.[7][8][9][10] Ym mis Mai 2018, dyfarnwyd y fasnachfraint newydd i Keolis Amey Wales Cymru. Roedd yn cychwyn ar 14 Hydref 2018 gyda'r bwriad o redeg am 15 mlynedd.[11]
Yn wahanol i'r fasnachfraint flaenorol, a ddyfarnwyd gan yr Adran Drafnidiaeth yn Llundain, dyfarnwyd y fasnachfraint newydd gan Drafnidiaeth Cymru.
Gwelliannau
golyguMae yna gynlluniau i wella'r gwasanaethau rhwng 2018 a 2033 fel rhan o'r fasnachfraint newydd:
- Cyflwyno unedau newydd diesel dau a thri cherbyd ar gyfer gwasanaeth Aberdaugleddau i Manchester Piccadilly erbyn 2023
- Deuddeg cerbyd Mark 4 wedi ailwampio, ar gyfer prif wasanaeth Caergybi i Gaerdydd Ganolog
- Buddsoddi yng ngorsaf Caer erbyn 2028
- Cynyddu gwasanaethau Wrecsam Canolog i Bidston i 2 dren bob awr erbyn Rhagfyr 2021 fel rhan o Metro Gogledd Ddwyrain Cymru
- Cyflwyno gwasanaeth newydd bob awr rhwng Lerpwl Lime Street a Chaer o Ragfyr 2018
- Cyflwyno gwasanaeth newydd bob awr rhwng Lerpwl, Llandudno a'r Amwythig o Ragfyr 2022
- Cyflwyno gwasanaeth newydd bob dwy awr o Lerpwl i Gaerdydd Canolog o Ragfyr 2022
- Cyflwyno gwasanaeth uniongyrchol o Faes Awyr Manceinion i Fangor o Ragfyr 2022
- Gwasanaethau bob awr rhwng Cheltenham Spa a Chaerdydd erbyn Rhagfyr 2022
- DMUs newydd ar lein y Cambrian yn ystod 2022 i ddisodli yr hen Ddosbarth 158 Express Sprinters
- Trenau wedi ei adnewyddu, Dosbarth 170 Turbosta ar linell Calon Cymru erbyn 2022
- Buddsoddi yng nghorsafoedd Caerfyrddin a Machynlleth erbyn 2021 a gorsaf Llanelli erbyn 2025
- Darparu peiriannau tocyn mewn mwy o orsafoedd
- Cyflwyno Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol newydd ar gyfer llinelli Gorllewin Cymru
- Gwasanaeth un trên yr awr cyson ar lein y Cambrian o'r Amwythig i Aberystwyth
- Gwasnaeth ychwanegol bob dydd ar linell Calon Cymru o Ragfyr 2022
- Gwasanaethau ychwanegol ar Suliau yn ystod yr haf o Fai 2023 rhwng Tywyn a Phwllheli – yn cynnwys gwasanaeth newydd cyflym 1 trên yr awr rhwng prif ganolfannau erbyn 2025
- Gwasanaeth dosbarth cyntaf rhwng Abertawe a Manceinion o Ragfyr 2024
- Cyfnewid holl gerbydau Dosbarthau 142 a 143 Pacers erbyn diwedd 2019
- Cyflwyno Metro Canolog sy'n gwella amserau teithio a chynyddu amledd i o leia pedwar trên bob awr o frig bob llinell y Cymoedd drwy ddefnyddio trenau newydd
- Cyflwyno talu-wrth-fynd ar gyfer defnyddwyr cardiau clyfar erbyn Ebrill 2020
- Dileu defnydd diesel ar linellau Metro Canolog (i'r gogledd o Gaerdydd Heol y Frenhines) erbyn 2024
- Darparau peiriannau tocyn yn holl orsafoedd Metro De Cymru erbyn Ebrill 2019
- Adeiladu gorsafoedd newydd yn Sgwâr Loudon, Ffordd Crwys ac y Flourish erbyn Rhagfyr 2023 a Gabalfa erbyn 2028 a adleoli gorsaf Stad Trefforest erbyn Rhagfyr 2025
- Cyflwyno trenau newydd tri-modd rhwng Penarth, Barry a Phen-y-bont ar Ogwr i gyrchfannau gogledd i Gaerdydd Canolog
- Gwasaneth newydd 1 tren yr awr (tya) rhwng Tref Glyn Ebwy a Chasnewydd o Fai 2021
- 2tya rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr drwy linell Bro Morgannwg o Ragfyr 2023
- 4tya ar linell Rhymni o Ragfyr 2023
- 4tya i Dreherbert o Ragfyr 2022
- 6tya i Fae Caerdydd o Ragfyr 2022
- 4tya rhwng Merthyr Tudful, Aberdar a Chaerdydd o Ragfyr 2022
- 4tya rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr (uniongyrchol, Llun i Sadwrn) o Ragfyr 2019
- Cyflwyno fflyd newydd o unedau lluosog diesel (DMU) i linell Arfordir Gogledd Cymru yn 2022
- Buddsoddi yng nghorsafoedd Shotton a Wrecsam Canolog erbyn Ebrill 2024
- Buddsoddi i gyd-gyllido adeilad gorsaf newydd ym Mlaenau Ffestiniog
Cerbydau
golyguBydd Trenau TrC yn etifeddu fflyd o unedau diesel lluosog Dosbarthau 142, 143, 150, 153, 158 a 175 a cherbydau Marc 3 oddi wrth Drenau Arriva Cymru.
Fflyd etifeddol
golyguDosbarth | Llun | Math | Cyflymder uchaf | Cerbyd | Nifer | Llwybrau Weithredwyd | Adeiladwyd | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
mph | kph | |||||||
Stoc locomotif tynnu | ||||||||
67 | Loco | 125 | 200 | – | 3 | Premier Service: Caergybi-Caerdydd Canolog
|
1999–00 | |
Mark 3 | Coach | 12 | 1975–88 | |||||
DVT | 3 | 1988 | ||||||
Unedau diesel lluosog | ||||||||
142 Pacer | DMU | 75 | 121 | 2 | 15 | Llinellau'r Cymoedd a llwybrau lleol Caerdydd | 1985–87 | |
143 Pacer | DMU | 75 | 121 | 2 | 15 | Llinellau'r Cymoedd a llwybrau lleol Caerdydd |
1985–86 | |
150/2 Sprinter | DMU | 75 | 121 | 2 | 36 |
|
1986–87 | |
153 Super Sprinter | DMU | 75 | 121 | 1 | 8 |
|
1987–88 | |
158/0 Express Sprinter | DMU | 90 | 140 | 2 | 24 |
|
1990–91 | |
175/0 & 175/1 Coradia | DMU | 100 | 161 | 2 | 11 | Gwasanaethau rhanbarthol rhwng Gogledd Orllewin Lloegr, De a Gogledd Cymru |
1999–01 | |
3 | 16 |
Fflyd y dyfodol
golyguDisgwylir y bydd y fflyd cyfan a etifeddwyd gan Drenau TrC yn cael eu disodli erbyn 2023, gyda hanner y trenau newydd i'w cynhyrchu gan CAF yn ei ffatri yn Llanwern.[12]
Bydd cyfanswm o 77 uned lluosog diesel CAF Civity yn cael eu hadeiladu. Bydd yna hefyd nifer o unedau diesel lluosog ail-ddefnydd yn ymuno â'r fflyd, gyda phum Nodyn:Brcs o Great Western Railway (ar sail tymor byr yn unig) a deuddeg Dosbarth 170/2s o Greater Anglia.[13]
Hefyd, mae cyfanswm o unedau 35 Stadler FLIRT wedi'u harchebu; 24 tri-dull ac un ar ddeg diesel-trydan. Mae 36 trenau-tram Stadler Citylink tri cerbyd hefyd wedi ei archebu.
Mae pump uned Dosbarth 230 o hefyd wedi ei archebu o Vivarail, a mae deuddeg cerbyd Marc 4 i ymuno â'r fflyd o London North Eastern Railway ar ôl cael ei hadnewyddu.
Dosbarth | Llun | Math | Cyflymder Uchaf | Cerbydau | Nifer | Llwybrau Weithredir | Adeiladwyd | Mewn Gwasanaeth | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
mph | kph | ||||||||
Stoc locomotif tynnu | |||||||||
Mark 4 | Coach | 140 | 225 | – | 12 | Gwasanaethau rhwng Gogledd a De Cymru[14] |
1989–92 | 2019 | |
Unedau diesel lluosog | |||||||||
153 Super Sprinter[15] | DMU | 75 | 121 | 1 | 5 | Llwybrau cefn gwlad yng Ngorllewin Cymru | 1987–88 | 2019 | |
170/2 Turbostar | DMU | 100 | 161 | 2 | 4 |
|
1999–02 | 2019 | |
3 | 8 | ||||||||
i'w gadarnhau Civity[16] | DMU | i'w gadarnhau | i'w gadarnhau | 2 | 51 |
|
i'w gadarnhau | 2021–23 | |
3 | 26 | ||||||||
Unedau lluosog diesel-trydan | |||||||||
230 D-Train | DEMU | 60 | 97 | 3 | 5 | Llinell Dyffryn Conwy , Llinell Borderlands, Caer-Crewe[17][18] | TBC | 2019 | |
TBC FLIRT | DEMU | i'w gadarnhau | i'w gadarnhau | 4 | 11 | Gwasanaethau yn Ne-Ddwyrain Cymru |
TBC | 2022 | |
Unedau lluosog deu-fodd | |||||||||
769 Flex | BMU | i'w gadarnhau | i'w gadarnhau | 4 | 5 | I'w gadarnhau | TBC | 2018[nb 1] | |
Unedau lluosog tri-modd | |||||||||
(i'w gadarnhau) FLIRT | TMU | i'w gadarnhau | i'w gadarnhau | 3 | 7 | Gwasanaethau rhwng Rhymni/Coryton i Benarth/Ynys y Barri/Pen-y-bont ar Ogwr trwy Fro Morgannwg | i'w gadarnhau | 2023 | |
4 | 17 | ||||||||
Trenau-tram | |||||||||
TBC Citylink | Tram-train | i'w gadarnhau | i'w gadarnhau | 3 | 36 | Gwasanaethau i Dreherbert, Aberdar a Merthur Tudful | i'w gadarnhau | 2022–23 |
Nodiadau
golygu- ↑ Class 319/4 units were initially built between 1987 and 1988
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Full legal name is bilingual including the Welsh name, as "Keolis Amey Operations / Gweithrediadau Keolis Amey Limited". "Keolis Amey Operations/Gweithrediadau Keolis Amey Limited". gov.uk. Companies House. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 January 2021. Cyrchwyd 15 May 2020.
Company number: 11389531
- ↑ "KEOLIS AMEY WALES CYMRU LIMITED". beta.companieshouse.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 November 2018.
Company number 11391059
- ↑ Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad Dyfodol y Rheilffyrdd. Llywodraeth Cymru (22 Hydref 2020).
- ↑ Llywodraeth Cymru’n cadarnhau eu bod yn camu i mewn i reoli’r rheilffyrdd , Golwg360, 22 Hydref 2020.
- ↑ "Rail operator shortlist revealed" (Press release). Welsh Government. 2016-10-12. http://gov.wales/newsroom/transport/2016/161013-rail-operator-shortlist-revealed/?lang=en. Adalwyd 2018-09-30. "Four bidders have been selected to progress to the next stage in the procurement process to operate rail services in Wales and the Borders from October 2018 as well take forward key aspects of the next stage of Metro."
- ↑ "Wales & Borders bidders asked to propose Metro options". Railway Gazette International. Sutton: DVV Media Group. 13 Hydref 2016. ISSN 0373-5346. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
- ↑ "Arriva pulls out of Wales & Borders franchise contest". International Railway Journal. Falmouth: Simmons-Boardman Publishing. 30 Hydref 2017. ISSN 0744-5326. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 5 Hydref 2018.
- ↑ "Arriva Trains Wales drops out of Welsh rail franchise bid". BBC News. BBC. 30 Hydref 2017. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
The firm that runs most of Wales' rail network has pulled out of the contest to continue running it from 2018. Arriva has said Arriva Trains Wales was "no longer participating in the Wales and Borders competition", adding it had "not been an easy decision".
- ↑ "Abellio ends rail bid after Carillion collapse". BBC News. BBC. 23 Chwefror 2018. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
One of the three remaining bidders for the next Wales and Borders rail franchise has pulled out. Abellio Rail Cymru (ARC) said it had been unable to overcome the collapse of its partner construction company, Carillion. Its exit from the process leaves just MTR and KeolisAmey bidding to run the franchise, which will operate the South Wales Metro.
- ↑ "Abellio pulls out of Wales & Borders bidding". International Railway Journal. Falmouth: Simmons-Boardman Publishing. 23 Chwefror 2018. ISSN 0744-5326. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mai 2018. Cyrchwyd 5 Hydref 2018.
- ↑ "Wales' rail and metro franchise to be run by KeolisAmey". BBC News. BBC. 23 Mai 2018. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
A £5bn contract to run Wales' rail service for the next 15 years has been awarded to two European firms, who will run it jointly. France's Keolis and Spanish-owned Amey's bid triumphed over a rival offer from Hong Kong's MTR commuter railways.It will also drive forward the south Wales Metro in Cardiff and the valleys.
- ↑ Barry, Sion (4 Mehefin 2018). "How Wales' railways will be transformed with new stations, trains and jobs through investment worth billions". WalesOnline. Cardiff: Reach. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
- ↑ "AMs WB Overview Presentation vJP AM" (PDF). KeolisAmey Wales. KeolisAmey Wales. Cyrchwyd 5 June 2018.
- ↑ "What's Happening in North Wales". Transport for Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-07. Cyrchwyd 4 June 2018.
- ↑ "Service Improvements" (PDF). Transport for Wales. Welsh Government. Cyrchwyd 4 June 2018.[dolen farw]
- ↑ "KeolisAmey reveal new-look Wales trains and services". BBC News. BBC. 4 Mehefin 2018. Cyrchwyd 4 Mehefin 2018.
- ↑ "Vivarail Class 230s for Wales". Railways Illustrated. Rhif. 187. Key Publishing. September 2018. t. 13. ISSN 1479-2230.
- ↑ "Vivarail announce new order for Wales and Borders". 2018-06-07. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-02. Cyrchwyd 2018-10-02.