Gorsaf reilffordd Kyle of Lochalsh
Mae Gorsaf reilffordd Kyle of Lochalsh (Gaeleg:Caol Loch Aillse) yn derminws i'r rheilffordd rhwng Inverness a Kyle of Lochalsh. Mae amgueddfa reilffordd yn yr orsaf.[1]
Math | gorsaf reilffordd, gorsaf pengaead, gorsaf reilffordd harbwr |
---|---|
Agoriad swyddogol | 2 Tachwedd 1897 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cyngor yr Ucheldir |
Gwlad | Yr Alban |
Gerllaw | Loch Alsh |
Cyfesurynnau | 57.279869°N 5.713839°W |
Cod OS | NG762271 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 2 |
Côd yr orsaf | KYL |
Rheolir gan | Abellio ScotRail, Dingwall and Skye Railway |
Perchnogaeth | Network Rail |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig categori B |
Manylion | |
Agorwyd yr orsaf ar 2il Tachwedd 1897 gan Reilffordd yr Ucheldir. Roedd Kyle yn derminws i'r fferi at Kyleakin ar An t-Eilean Sgitheanach (Saesneg:Skye) hyd at 1995, pan agorodd pont i'r ynys. Roedd Kyle hefyd yn derminws i'r fferi i Steòrnabhagh (Saesneg: Stornoway) rhwng 1897 a 1973, pan symudodd y wasanaeth o Kyle i Ullapool, sy'n agosach i Steòrnabhagh.[2][3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan railscot.co.uk
- ↑ Gwefan undiscoveredscotland.co.uk
- ↑ "Gwefan shipsofcalmac". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-08. Cyrchwyd 2020-04-06.