An t-Eilean Sgitheanach

Un o Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw An t-Eilean Sgitheanach (Saesneg: Skye). Hi yw'r fwyaf o Ynysoedd Mewnol Heledd a'r fwyaf gogleddol. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 8,748.

Ynys Skye
Mathynys Edit this on Wikidata
PrifddinasPort Rìgh Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,008 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Mewnol Heledd Edit this on Wikidata
SirCyngor yr Ucheldir Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd1,656 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr993 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.33°N 6.27°W Edit this on Wikidata
Hyd80 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Loch na Cairidh
Loch Ainort
Y bont sy'n cysylltu An t-Eilean Sgitheanach a't tir mawr
Lleoliad An t-Eilean Sgitheanach

Gydag arwynebedd o 1700 km² hi yw'r ail-fwyaf o ynysoedd yr Alban; dim ond ynys Leòdhas a Na Hearadh sy'n fwy. Yn ne yr ynys, ceir mynyddoedd y Cuillin. Yn y de-orllewin, ceir sawl penrhyn, megis Sleat, Strathaird, Minginish a Duirinish, tra mae dau benrhyn, Waternish a Trotternish yn y gogledd-ddwyrain. Ymhlith yr ynysoedd llai o'i hamgylch mae Raasay, Scalpay a Rona yn y gogledd-orllewin, a Sòdhaigh, Canna, Rum ac Eigg yn y de.

Mae'r ganran o'r boblogaeth sy'n siarad Gaeleg wedi gostwng yn y degawdau diwethaf, ond mae'n parhau yn sylweddol, 31% yn ôl cyfrifiad 2001. Ceir coleg Sabhal Mòr Ostaig, sy'n dysgu trwy gyfrwng yr Aeleg, ar benrhyn Sleat gerllaw Armadale. Ymhlith adeiladau nodedig yr ynys mae Castell Dunvegan, pencadlys Clan MacLeod.

Yn 1995, agorwyd pont i gysylltu'r ynys a'r tir mawr, o Kyleakin i Kyle of Lochalsh. Bu llawer o brotestio am y tollau ar y bont yma, ac yn 2004, gwnaed i ffwrdd a hwy. Mae gwasanaeth fferi yn cysylltu Uig ag An Tairbeart ar Na Hearadh (Harris) a Lochmaddy ar Uibhist a Tuath (North Uist), a fferi yn cysylltu Sconser ag ynys fechan Raasay. O Mallaig ar y tir mawr (a gwasanaeth rheiffordd i Glasgow) mae fferi i Armadale. Mae'r briffordd A87 yn cysylltu Portree, Sconser a Broadford yn y gogledd-ddwyrain ag Uig yn y gogledd-orllewin.

Pentrefi

golygu
 
Tarsgabhaig

Gweler hefyd

golygu

Dolennau allanol

golygu