Gorsaf reilffordd New Brighton
Mae Gorsaf reilffordd New Brighton yn derminws yn New Brighton, yng Nghilgwri, Glannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, ar gangen y rhwydwaith Merseyrail.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | New Brighton |
Agoriad swyddogol | 1888 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Fetropolitan Cilgwri |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.437°N 3.049°W |
Cod OS | SJ304939 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 2 |
Côd yr orsaf | NBN |
Rheolir gan | Merseyrail |
Perchnogaeth | Network Rail |
Agorodd yr orsaf ym 1888.[1] Roedd hi’n derminws y lein o Parc Penbedw, rhan o Reilffordd Cilgwri. Estynnwyd y lein i Lerpwl ym 1938 ar ôl trydaneiddio’r lein. Roedd gan yr orsaf iard nwyddau hyd at 30 Hydref 1965.[2] Rhwng 1969 a 1971, aeth trenau diesel ar lein Borderlands o Wrecsam i New Brighton, ond aeth ychydig iawn o bobl ymlaen o Bidston i New Brighton. Erbyn hyn, terminw y lein Borderlands yw Bidston.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan wallaseyshopping
- ↑ Mitchell & Smith 2013, fig. 116