Merseyrail
Mae Merseyrail yn gwmni sy'n gweithredu trenau a rhwydwaith rheilffyrdd cymudo yn y Deyrnas Unedig, sy'n canolbwyntio ar ddinas Lerpwl, Glannau Merswy. Mae'r rhwydwaith yn bennaf trydan gyda trenau disel yn rhedeg ar Llinell y Ddinas.
Math | cwmni gweithredu trenau ym Mhrydain Fawr |
---|---|
Rhiant-gwmni | Serco-Abellio |
Gwefan | https://www.merseyrail.org/ |
Llinellau
golyguLlinell Ogleddol (Northern Line)
golyguMae gwasanaethau ar y Llinell Gogleddol yn gweithredu o Hunts Cross yn y de o Lerpwl, drwy dwnnel o orsaf Brunswick drwy Lerpwl Canolog a Moorfields, i Southport. Mae gwasanaethau hefyd yn rhedeg o Lerpwl Canolog i Ormskirk a Kirkby. Mae gan bob llwybr drên bob 15 munud o Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn gan roi cyfnod o bum munud rhwng trenau ar yr adran ganolog.
-
Trên Merseyrail yng nghorsaf reilffordd Caer
-
Map y rhwydwaith
-
Trên Merseyrail yng nghorsaf Moorfields
Llinell Cilgwri (Wirral Line)
golyguMae gwasanaethau ar y Llinell Cilgwri yn gweithredu o'r ddolen drwy Dwnnel Reilffordd Merswy i orsaf Hamilton Square ym Mhenbedw. Oddi yno, naill ai eu bod yn rhedeg i'r de i Hooton, lle maent yn parhau i naill ai Gaer neu Ellesmere Port, neu i'r gorllewin i ogledd Benbedw, lle mae'r llinell yn rhannu i New Brighton a West Kirby.
Llinell Ddinas (City Line)
golyguYn fras, mae'r Llinell Ddinas yn cynnwys y Rheilffordd Lerpwl i Wigan a'r ddwy gangen arall sy'n rhan o'r llinellau gogleddol a deheuol Lerpwl i Fanceinion.