Gorsaf reilffordd Southport
Mae gorsaf reilffordd Southport yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu tref Southport ym mwrdeistref fetropolitan Sefton yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr. Mae’n derminws Lein Gogleddol Merseyrail.[1]
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Southport |
Agoriad swyddogol | 1851 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Southport |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.647°N 3.002°W |
Cod OS | SD338171 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 6 |
Côd yr orsaf | SOP |
Rheolir gan | Merseyrail |
Perchnogaeth | Network Rail |
Hanes
golyguAdeiladwyd y rheilffordd o Lerpwl hyd at orsaf reilffordd Heol Eastbank ym 1848. Agorwyd yr orsaf presennol, gyda’r enw “Southport Chapel Street” ar 22 Awst 1851. Caewyd gorsaf arall drws nesaf, Gorsaf reilffordd Southport Heol Llundain ym 1857, a defnyddiwyd Chapel Street ar gyfer y trenau i gyd.[2]
O 1882 ymlaen, daeth trenau’r Rheilffordd Gorllewin Swydd Gaerhirfyn o Preston i orsaf arall, Gorsaf reilffordd Heol Derby, hefyd yn agos i’r orsaf presennol. Daeth yr orsaf yn "Southport Canolog" yn ddiweddarach, ac yn y pen draw trosglwyddwyd ei threnau i Chapel Street.
Ym 1884 daeth rheilffordd arall, o’r Pwyllgor Leiniau Swydd Gaer i’r dref, yn defnyddio Gorsaf reilffordd Southport (Heol yr Arglwydd). Caewyd y rheilffordd a’r orsaf ym mis Ionawr, 1952.[3]
Trydaneiddiwyd y rheilffordd o Lerpwl ym 1904.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Merseyrail
- ↑ Gell, Rob (1986). An Illustrated Survey of Railway Stations Between Southport & Liverpool 1848-1986. Cwmni Cyhoeddi Heyday, ISBN 0-947562-04-4.
- ↑ Marshall, J (1981). Forgotten Railways: North West England. David & Charles (Cyhoeddwyr) Cyf, Newton Abbott. ISBN 0-7153-8003-6; tud 80