George Stephenson

peiriannydd sifil a mecanyddol o Loegr a'r "Tad Rheilffyrdd" (1781-1848)

Peiriannydd o Loegr oedd George Stephenson (9 Mehefin 178112 Awst 1848). Ynghyd a'i fab, Robert Stephenson, adeiladodd y locomotif stêm cyntaf a oedd yn gweithio yn iawn, sef y Rocket ym 1829. Roedd Richard Trevithick wedi adeiladu'r locomotif stêm cyntaf ym 1804, ond roedd hi wedi bod yn rhy drwm i'r rheiliau ac felly ddim yn gweithio'n effeithiol.

George Stephenson
Ganwyd9 Mehefin 1781 Edit this on Wikidata
Wylam Edit this on Wikidata
Bu farw12 Awst 1848 Edit this on Wikidata
o pliwrisi Edit this on Wikidata
Tapton House Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd sifil, dyfeisiwr, peiriannydd mecanyddol, peiriannydd rheilffyrdd, dylunydd locomotif Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLiverpool and Manchester Railway Edit this on Wikidata
PriodFrances Henderson, Elizabeth Hindmarsh, Ellen Gregory Edit this on Wikidata
PlantRobert Stephenson Edit this on Wikidata
llofnod

Bywgraffiad golygu

Ganwyd George Stephenson ym mhentref Wylam ger Newcastle upon Tyne lle roedd rhywbeth fel rheilffordd yn rhedeg o'r pwll glo i'r Afon Tyne a'r wagen yn cael ei dynnu gan geffyl/au.

O 1802 hyd 1812 roedd Stephenson yn gweithio fel peiriannydd mewn pwll glo lle dysgodd lawer am beiriannau ager. Adeiladodd ei locomotif cyntaf o'r enw Blucher ym 1814 ac roedd yn gallu cludo 30 tunnell o lo ac roedd y rheillffordd yn 13 km (8 milltir) o hyd o Hetton i Sunderland.

Dechreuodd adeiladu Rheilffordd Stockton a Darlington ym 1812. Ym mis Medi 1825 cwblhaodd Stephenson ei locomotif cyntaf o'r enw Active (ond newidiwyd yr enw mewn ychydig i fod yn Locomotion) i gludo glo a blawd ond yn ystod ei thaith cyntaf yr oedd yn cario teithwyr am y tro cyntaf.

Hwyrach, mai fe adeiladodd y Bolton and Leigh Railroad a'r Liverpool and Manchester Railway. Pan gwblhawyd yr olaf ym 1829, roedd cystadleuaeth i benderfynu pa locomotif iw defnyddio ar yr rheilffordd newydd: Treialon Rainhill enwog ym mis Hydref 1829 ac enillodd y Rocket, locomotif a adeiladwyd gan Stephenson, yn hawdd.

Tua 1827, tra'n adeiladu Rheilffordd Lerpwl a Manceinion, fe gafodd alwad i gynghori cwmni newydd Rheilffordd Nantlle ar y ffordd orau i osod y trac, wedi i gynlluniau'r peiriannydd camlesi, Roger Hopkins, ar gyfer adeiladu plat-ffordd neu plateway brofi'n anymarferol. Anfonodd George ei frawd, Robert Stephenson (yr hynaf) i Ogledd Cymru i wneud arolwg o'r hyn oedd ei angen, a'r canlyniad oedd gwerthu'r platiau a brynwyd eisoes ar gyngor Hopkins a phrynu cledrau ochr (oedd ddim yn annhebyg i'r rhai ar reilffyrdd modern) o ffowndri Bedlington yn eu lle.

Roedd seremoni y daith gyntaf ar y rheilffordd ar 15 Medi 1830 yn grand iawn. Daeth pobl enwog y llywodraeth a diwydiant gan gynnwys y Prif Weinidog, Dug Wellington ar y daith. Ond bu damwain a lladdwyd Aelod Seneddol Lerpwl, William Huskisson pan gafodd ei darro gan y Rocket.

Fodd bynnag, roedd Stephenson yn dal i fod yn llwyddiannus iawn a bu farw yn ddyn cyfoethog ar 12 Awst, 1848.

Cyfeiriadau golygu