Gorsaf reilffordd Y Borth
gorsaf reilffordd yn y Borth, Ceredigion
Mae gorsaf reilffordd y Borth yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu pentref arfordirol y Borth yng Ngheredigion, Cymru. Mae'r orsaf yn gorwedd ar Reilffordd y Cambrian a chaiff ei rheoli gan Trafnidiaeth Cymru.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Y Borth |
Agoriad swyddogol | 1863 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Y Borth |
Sir | Y Borth |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 4 metr |
Cyfesurynnau | 52.490979°N 4.049762°W |
Cod OS | SN609900 |
Cod post | SY24 5HT |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 1 |
Côd yr orsaf | BRH |
Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru |
Perchnogaeth | Network Rail |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Crewyd amgueddfa, yn defnyddio rhan o'r ystafell aros, swyddfa rheolwr yr orsaf a'r swyddfa tocynnau, yn 2011 yn cynnwys hanes lleol, hanes y rheilffordd ac arddangosfeydd o astudiaethau natur a'r amgylchedd.[1]
Ymddangoswyd yr orsaf a'r amgueddfa ym mhennod 4 o gyfres cyntaf 'Y Gwyll'.
Cyfeiriadau
golygu